Araith y Llywydd – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, 19 Mai 2021

“Mae’n bleser gennyf gael y cyfle hwn i siarad gyda chi gyd ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf fel Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd croeso cynnes y Gymdeithas i’n holl Gymrodyr newydd, ac wrth gwrs, i’r Athro Carby a Syr Michael fel ein Cymrodyr Anrhydeddus newydd.

“Mae hon, wrth gwrs, wedi bod yn flwyddyn eithriadol. Ar adeg ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf, roeddem wedi bod dan glo am ddau fis a dim ond yn dechrau deall goblygiadau llawn y pandemig Covid-19. Nawr, rydym yn ymwybodol iawn o’i effaith ar fywydau dynol, ar lesiant corfforol a meddyliol, ar ein cymdeithas ac ar ein heconomi. Rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch yma heddiw wedi gweld canlyniadau negyddol y pandemig i addysg uwch ac ymchwil hefyd.

“Ond rwyf eisiau cydnabod y gwydnwch a’r arloesedd eithriadol sydd wedi cael ei ddangos gan gymaint yn ein cymunedau dysgu hefyd. Mae gwyddonwyr wedi modelu’r pandemig ac wedi cynhyrchu’r brechlynnau sydd eu hangen arnom i’w oroesi; mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gofalu am filiynau mewn amgylchiadau anodd iawn; mae addysgwyr wedi ymateb i’r her o gefnogi dysgu yn ein hysgolion a’n prifysgolion; mae gwyddonwyr cymdeithasol wedi ein helpu i ddeall yr effaith ar deuluoedd a chymunedau; ac mae awduron, artistiaid, darlledwyr a pherfformwyr i gyd wedi ymateb mewn ffyrdd newydd a diddorol.

“Mewn synnwyr mwy eang, mae Covid-19 a’i ganlyniadau wedi codi ymwybyddiaeth pawb o bwysigrwydd ymchwil ac o fuddsoddi yn ein harbenigwyr a’u cefnogi. Mae hyn yn gwneud gwaith sefydliad fel Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sydd gyda bron i 600 o Gymrodyr sy’n rhychwantu ystod enfawr o ddisgyblaethau, hyd yn oed yn fwy perthnasol.

“Ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon, mae’r Gymdeithas nid yn unig wedi goroesi, ond wedi ffynnu. Fel rydych chi wedi clywed yn barod heddiw, mae ein digwyddiadau wedi denu’r niferoedd uchaf erioed o gyfranogwyr; mae ein Medalau wedi derbyn mwy o enwebiadau nag erioed o’r blaen; ac rydym wedi sefydlu rhwydwaith newydd ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Rwyf eisiau cydnabod ymdrechion eithriadol ein tîm o staff talentog, sydd wedi llwyddo’n wych i newid i weithio o gartref ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhithwir- a hefyd, y Cymrodyr sy’n cyfrannu mewn ffyrdd mor amrywiol i’n digwyddiadau, ein gwaith polisi a’n gweithgareddau. Rwy’n ddiolchgar iawn ichi gyd.

“Yn ogystal â’r gweithgareddau a grybwyllwyd yn gynharach gan Sarah a Martin, hoffwn dynnu sylw at ddwy fenter arall sy’n dangos ehangder gwaith y Gymdeithas.

“Yr haf diwethaf, gydag ysgolion ar gau a disgyblion yn astudio gartref, fe wnaethom lansio Her Dysgu’r Cyfnod Clo. Fel rhan o’r her, fe ofynnom i fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch, a fyddai fel arall yn sefyll eu harholiadau, greu ‘esboniad’ ar bwnc y byddent yn ei astudio yn y dyfodol. Cawsom ystod wych o geisiadau o bob rhan o Gymru, a dyfarnwyd gwobrau am rap am nitrogen ac am esboniad iaith blaen o gymhlethdodau damcaniaeth cwantwm. Yr enillwyr oedd: gwobr TGAU Blwyddyn 11 – Grazia Obuzor, Ysgol Uwchradd Hawthorn; ac ar gyfer gwobr Safon Uwch Blwyddyn 13 – Daniel Hunt, Ysgol Bryn Celynnog. Drwy gyd-ddigwyddiad, mae’r ddwy ysgol yn ardal Pontypridd.

“Yn ail, rydym wedi parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yng Nghomisiwn Bevan ar yr agenda Un Iechyd, sef dull sy’n cydnabod y cysylltiadau rhwng iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau. Mae’r pandemig, wrth gwrs, wedi tynnu sylw go iawn at bwysigrwydd y maes gwaith hwn. Ar ôl trefnu cyfarfod grŵp arbenigol lefel uchel ym mlwyddyn flaenorol y Gymdeithas, roeddem yn falch o weld y Prif Swyddog Meddygol yn cydnabod potensial Un Iechyd yn ei adroddiad blynyddol. Ein cam nesaf fydd cyhoeddi datganiad ar y cyd ar Un Iechyd yr hydref hwn.

“Mae’r holl waith hwn yn cael ei gefnogi gan ganllawiau ein Cyngor, sef bwrdd ymddiriedolwyr y Gymdeithas, sy’n gyfrifol am lywodraethu a rhedeg ein helusen yn effeithiol. Mae aelodau’r Cyngor – ac yn wir ein pwyllgorau llywodraethu, pwyllgorau craffu a phwyllgorau medalau – yn cyfrannu llawer iawn o amser ac arbenigedd i’r Gymdeithas bob blwyddyn.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r rheiny sy’n cwblhau eu tymhorau ar y Cyngor eleni: ein Trysorydd, Keith Smith; John Jones; a David Boucher, a oedd yn Is-lywydd blaenorol y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

“Ar ôl bod yn Llywydd am flwyddyn, mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau yn y Cyngor. Rwyf wedi cael y cyfle i ystyried sefyllfa gwaith y Gymdeithas, ein Cymrodoriaeth a’r potensial mawr ar gyfer ein twf yn y dyfodol hefyd.

“Un maes y mae’r Cyngor yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd yw cynnwys a chynrychioli amrywiaeth ein cymunedau dysgu. Mae hyn yn berthnasol i’n Cymrodoriaeth, ein cyrff gwneud penderfyniadau, a’n gweithgareddau cyhoeddus.

“Mae’n bleser gennyf ddweud wrthych, pan wnaethom gyfarfod i drafod y materion hyn cyn y Nadolig, fod y Cyngor wedi cymeradwyo camau gweithredu parhaus y Gymdeithas ar y materion hyn. Fe wnaethom gytuno i ymrwymo o’r newydd i gydraddoldeb ac amrywiaeth, wedi’i grynhoi mewn datganiad gweledigaeth newydd. Nid geiriau yn unig yw’r datganiad – rydym yn bwriadu cymryd rhywfaint o gamau gweithredu hefyd. Yn benodol, rydym ar fin lansio ymgynghoriad tu mewn a thu allan i’r Gymrodoriaeth, ac annog trafodaeth agored ar sut mae’r Gymdeithas yn cael ei gweld ar hyn o bryd, a beth arall y gallwn ei wneud i gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Yn wir, cyn i mi orffen yr araith hon, bydd Martin yn rhannu dolen i’n harolwg newydd sbon yn y bocs sgwrsio – cymerwch ychydig funudau ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i’w gwblhau.

“Byddwn yn canolbwyntio i gychwyn ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Gymrodoriaeth, ac rydym yn gobeithio cynyddu enwebiadau menywod o gyfartaledd diweddar o 30% i fyny i tua 50%. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn adolygu ein canllawiau etholiadol a’n prosesau asesu. Am y tro cyntaf, rydym yn trefnu sesiynau gwybodaeth agored hygyrch hefyd ar gyfer darpar enwebeion ar gyfer y Gymrodoriaeth, sy’n cynnwys un ar gyfer menywod yn unig. Rydym yn gobeithio cyrraedd cydbwysedd o 50/50 o fenywod a dynion ar draws ein pwyllgorau llywodraethu hefyd, erbyn diwedd blwyddyn nesaf y Gymdeithas.

“Yn dilyn hynny, byddwn yn casglu mwy o ddata am nodweddion eraill ein Cymrodoriaeth, fel ethnigrwydd, fel y gallwn fynd i’r afael ag unrhyw feysydd eraill sydd yn cael eu tangynrychioli. Rwy’n gofyn i bob un ohonoch, fel Cymrodyr, i chwarae eich rhan – drwy annog eich cydweithwyr i fynychu un o’n sesiynau gwybodaeth neu gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, neu drwy lenwi holiadur monitro cydraddoldeb pan ofynnir iddynt. Ac os ydych chi’n teimlo y buasech chi’n ychwanegu at yr amrywiaeth o brofiadau ar ein Cyngor neu’n pwyllgorau, gwnewch gais i ymuno ar y cyfle nesaf sydd ar gael. Mae’r holl gamau hyn yn ein helpu i barhau i ddatblygu ein Cymdeithas fel academi genedlaethol, gynhwysol a blaengar.

“Fel mae pob un ohonom yn gwybod, ac fel sydd wedi cael dod i’r golwg yn sgil y pandemig, mae Cymru’n dal i fod heb ddatblygu’n economaidd, o’i chymharu â rhannau o’r DU ac Ewrop. Mae Brexit, yna Covid, yn cyflwyno llawer o heriau i ni, felly mae’n braf clywed am bwysigrwydd yr agenda ‘lefelu’ yn San Steffan. Rydym yn aros yn eiddgar am fanylion pellach am y cynlluniau rydym yn gobeithio eu gweld. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu, o fewn addysg uwch a’r sector preifat.

“Ac wrth gwrs, mae Cymru a gweddill y byd yn wynebu argyfwng hinsawdd parhaus, sy’n gofyn fwyfwy am arloesi cyflym a radical ar draws llawer o ddisgyblaethau. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n cysylltu â’r gynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow.

“Byddwn yn trefnu sgyrsiau pwysig ar ddyfodol ymchwil ac arloesi hefyd, yn adeiladu ar ein rhwydwaith gynyddol o ymchwilwyr gyrfa gynnar, ac yn cefnogi rhwydweithiau cydweithredol, rhyngddisgyblaethol yn Astudiaethau Cymru.

“Wrth gwrs, mae partneriaethau cryf yn hanfodol i’n llwyddiant. Hoffwn ddiolch i’r holl brifysgolion yng Nghymru am eu cyfraniadau ariannol hael i’n gwaith. Rwy’n ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi parhau i gefnogi’r Gymdeithas drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu lansio Cynghrair yr Academïau Celtaidd gyda’n ffrindiau yng Nghymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol Iwerddon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn rhoi llais cyfunol cryfach i’n gwledydd ar lefel y DU, mewn trafodaethau parhaus am gyllid ymchwil, polisi diwydiannol, a chysylltiadau mewnol yn y DU ac Iwerddon.

“Byddwn yn symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf gydag ymdeimlad newydd o bwrpas, ac yn yr ysbryd hwnnw, byddwn yn adnewyddu strategaeth y Gymdeithas dros y misoedd nesaf. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymrodyr, a gyda Martin fel Prif Weithredwr, i arwain y broses adnewyddu hon. Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau wrth i ni ystyried ble rydym eisiau i’n hacademi genedlaethol fod mewn 5, 10 neu hyd yn oed 20 mlynedd. Fel y gwnaethom ddangos yn ein cynadleddau Cymru a’r Byd a’n symposiwm Trwy Brism Iaith, mae gan ein cenedl lawer o asedau arbennig sy’n rhoi’r potensial i ni lwyddo’n fyd-eang. Y cwestiwn yw, sut rydym yn gwneud y gorau o’r asedau hynny er budd Cymru. Rwyf yn hyderus bod ein Cymdeithas, a’n Cymrodoriaeth, mewn sefyllfa dda i gyfrannu’n aruthrol i’r her hon.”