Ydych chi’n mynd i fod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn y Dyfodol?

Mae’r ffenestr ar gyfer enwebu rhywun i ddod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2023 bellach ar agor.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod y broses o sut i ddod yn Gymrawd yn gallu bod yn ddryslyd i’r rheini sy’n newydd i’r broses.

Ymunwch â’n sesiynau gwybodaeth i gael gwybod mwy:

Rydym felly,  yn cynnal sesiynau gwybodaeth anffurfiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael eich enwebu ac sydd eisiau deall y broses ethol:

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn y sesiynau gwybodaeth

Mae enwebiadau’n cael eu gwneud a’u hasesu gan ein Cymrodyr presennol. Byddwn yn egluro beth mae hynny’n ei olygu, a byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw beth rydych chi eisiau am y broses. Byddwch yn gallu clywed gan rai o’n Cymrodyr presennol am beth mae’r Gymrodoriaeth yn ei golygu iddyn nhw hefyd.

Mae ein Cymrodyr yn cynrychioli rhagoriaeth mewn llawer o feysydd dysgu – gan gynnwys y disgyblaethau academaidd, gweithgareddau rhyngddisgyblaethol, y sectorau cyhoeddus a phreifat, a lle bynnag y mae gwaith pobl yn cael effaith sylweddol ar fywyd Cymru.

Cymrodoriaeth amrywiol ar gyfer cymdeithas amrywiolor a diverse society

Mae croeso i bawb. Efallai eich bod chi wedi cael eich enwebu o’r blaen, neu’n meddwl y gallech chi gael eich enwebu eleni, neu yn y dyfodol. Er bod y broses yn gystadleuol, a dim ond y rheini sy’n bodloni ein meini prawf o ragoriaeth sy’n cael eu hethol, rydym yn gwneud ein gorau glas i fod yn groesawgar a chynhwysol. Rydym eisiau cynrychioli natur amrywiol Cymru, ei phrifysgolion a chymdeithas sifil.

Eleni, rydym yn arbennig o awyddus i gynyddu’r nifer o fenywod sy’n cael eu henwebu, felly mae un o’n sesiynau gwybodaeth wedi cael ei neilltuo ar gyfer cyfranogwyr benywaidd.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn un o’r sesiynau hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ofyn cwestiwn i gael ei ateb ar y diwrnod, cysylltwch â Fiona Gaskell.