Gwobrau, Penodiadau a Darlithoedd: Mis Mai 2021
Mae’r Athro Bernard Schutz, Athro yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Mae’r Athro Schiutz yn ffisegydd damcaniaethol, sy’n arbenigo mewn gwyddoniaeth ton disgyrchiant.
Llongyfarchiadau i’r Athro Mike Edmunds, Athro Emeritws Astroffiseg, Prifysgol Caerdydd, a gafodd ei ethol yn ddiweddar yn Llywydd nesaf y Gymdeithas Astronomegol Frenhinol. Bydd yn llywydd-ethol am flwyddyn, ac yna, yn gwasanaethu fel Llywydd rhwng 2022 a 2024.
Rhoddodd yr Athro W. John Morgan Ddarlith i Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ar ‘Ben Bowen Thomas, Cymru, ac UNESCO’. Mae’r ddarlith yn archwilio’r berthynas rhwng profiad personol Thomas o addysg oedolion, gwasanaethau cymdeithasol a rhyngwladoldeb rhyddfrydol yng Nghymru, a’i yrfa yn UNESCO.
Mae’r Athro Val O’Donnell, sy’n gweithio ar ddod o hyd i fathau newydd o lipidau a deall eu heffaith ar ein hiechyd, wedi ennill Darlith Morton yng ngwobrau blynyddol y Gymdeithas Biocemegol.
Ac yn olaf, cafodd War: How Conflict Shaped Us, gan y Cymrodyr Anrhydeddus, yr Athro Margaret MacMillan, ei roi ar y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Lionel Gelber 2021.