Toriadau arfaethedig Prifysgol Caerdydd – Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ymateb

Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi bod yn gynyddol bryderus bod prifysgolion Cymru yn gweithredu o fewn cyd-destun ariannol anodd. Mae straen economaidd, effeithiau polisi mewnfudo ar niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, a Brexit oll wedi cyfrannu at yr argyfwng hwn ledled y Deyrnas Unedig. Fel yr amlygwyd gennym yn ein hymateb i ymgynghoriad cyllideb ddrafft diweddaraf Llywodraeth Cymru, ac ymgynghoriad diweddar ar Strategaeth Medr, mae tanfuddsoddi mewn ymchwil yn arbediad ffug, ac mae risg y bydd yn peryglu’r cyfraniad sylweddol y mae ymchwil ac arloesi yn ei wneud i dwf economaidd y mae mawr ei angen.
Yng ngoleuni cyhoeddiadau diweddar gan Brifysgol Caerdydd, mewn perthynas â’i ad-drefnu arfaethedig a cholli swyddi, gofynnwn i’r ymgynghoriad fod yn dryloyw a cheisio lliniaru’r effeithiau gwaethaf posibl.
Mae ein pryder cyntaf gyda staff unigol y brifysgol, llawer ohonynt yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, sy’n wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol. Dylent wybod y sail lawn ar gyfer penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywoliaeth. Disgwyliwn i Brifysgol Caerdydd sicrhau bod y data a lywiodd eu cynigion cychwynnol ar gael.
Bydd mynediad at y data hwn yn helpu llunio’r cynlluniau amgen y mae’r brifysgol wedi’u gwahodd fel rhan o’r ymgynghoriad. Mae angen i staff weld eu barn a’u cynigion amgen, mewn perthynas â chyrsiau hanfodol a graddau a enwir, yn cael eu hystyried yn briodol.
Byddai’r colledion swyddi arfaethedig i’w teimlo ar draws llawer o adrannau academaidd. Byddai’r posibilrwydd o golli nyrsio, fel y noda’r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn bygwth y ‘piblinell o nyrsys cofrestredig i fwrdd iechyd mwyaf Cymru’ ar adeg pan fo’r GIG yn wynebu argyfwng staffio difrifol. Rydym yn pryderu bod pynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau yn wynebu toriadau sylweddol, anghymesur, a bod ieithoedd modern, cerddoriaeth, hanes hynafol ac astudiaethau crefyddol yn debygol o gael eu dirwyn i ben. Mae ymchwil i’r celfyddydau a’r dyniaethau yn sail i gyfran sylweddol o effaith y sector addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys ein diwydiannau creadigol a’n bywyd diwylliannol. Nododd ein hadroddiad diweddar, Newid y naratif: Rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, bod graddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau yn arbennig o gymwys gyda’r mathau o sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyflogwyr, megis meddwl yn greadigol a dadansoddol. Yn wir, mae llawer o’r sgiliau mwyaf addas ar gyfer y dyfodol yn ein byd sy’n prysur newid yn greiddiol i’r celfyddydau a’r dyniaethau (fel meddwl beirniadol a chreadigedd, fel y nodwyd gan Fforwm Economaidd y Byd). Byddai unrhyw ostyngiad yn y pynciau gradd hyn yn tanseilio potensial economaidd a chydlyniant cymdeithasol i Gymru gyfan.
Mae sefydliadau addysg uwch Cymru yn chwarae rhan hanfodol fel sefydliadau angori yn eu cymunedau. Maent yn meithrin newid cadarnhaol ac arloesedd ym mywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y dinasoedd a’r trefi y maent yn rhan ohonynt. Rydym yn galw ar reolwyr Prifysgol Caerdydd i ymuno â ni i wneud popeth o fewn ein gallu i gryfhau a chynnal y rôl honno.