Dathlu Rhagoriaeth: Y Broses Enwebu Medalau 2023 yn Agor

Mae’r cyfle i ddathlu ehangder ac effaith ymchwil o Gymru yma eto, wrth i Gymdeithas Ddysgedig Cymru lansio ei gwobrau medalau blynyddol ar gyfer 2023

Mae ein medalau yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Maen nhw’n hyrwyddo rhagoriaeth ymchwilwyr yng Nghymru ac o Gymru, ar draws pob disgyblaeth, gan gynnwys pobl sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae enillwyr medalau o’r gorffennol wedi dod o fewn y byd diwydiant ac addysg uwch.

“Mae tystiolaeth gref ynghylch pa mor llwyddiannus yw prifysgolion Cymru o ran sicrhau ymchwil effeithiol yn y dyniaethau a’r gwyddorau. Mae ein medalau yn arddangos rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw.”

Olivia Harrison, PRIF WEITHREDWR

Mae’r medalau yn cael eu dyfarnu mewn seremoni arbennig sydd yn cael ei chynnal yn yr hydref. Mae ein henillwyr medalau yn 2022 yn disgrifio pam bod derbyn un o’n medalau mor werthfawr.

Gall unrhyw un enwebu rhywun i dderbyn medal.

Rydym yn dyfarnu’r chwe medal canlynol: 

  • Mae’r Fedal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad menywod i ymchwil ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).
  • Dyfernir Medal Menelaus i gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i academydd, i ymchwilydd diwydiannol neu i ymarferwr diwydiannol sy’n ddangos cysylltiad penodol â Chymru.
  • Enwir y fedal sy’n dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru er anrhydedd i Syr Hugh Owen.
  • Mae Medalau Dillwyn yn canolbwyntio’n benodol ar ymchwilwyr gyrfa cynnar, ac yn tynnu sylw at academyddion a fydd yn mynd ymlaen i fod yn ffigurau blaenllaw yn eu meysydd.

Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rydym yn gwybod bod diwylliant o ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel wrth wraidd strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf a ffyniant.  

“Mae gan addysg uwch ran hanfodol i’w chwarae mewn helpu i gyflawni’r amcanion hyn.  

“Mae tystiolaeth gref ynghylch pa mor llwyddiannus yw prifysgolion Cymru o ran sicrhau ymchwil effeithiol yn y dyniaethau a’r gwyddorau.  

“Mae ein medalau yn arddangos rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw. Ar ben hynny, mae ein medalau Dillwyn, sydd yn cael eu dyfarnu i ymchwilwyr gyrfa cynnar, yn dangos ein hymrwymiad i greu diwylliant cefnogol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd.”  

Os ydych chi’n adnabod rhywun rydych chi’n meddwl ddylai dderbyn un o’n medalau, mae’r broses enwebu yn syml.  

Y dyddiad cau ar gyfer anfon enwebiadau ydy: 30 Mehefin