Mae ClwstwrVerse yn dod!

Bydd y rhaglen Clwstwr sydd yn cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) /Llywodraeth Cymru, dan gyfarwyddyd Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Justin Lewis, yn arddangos rhai o’u 100+ o brosiectau arloesi yn y cyfryngau yn ClwstwrVerse ar ddydd Llun, 4 Gorffennaf yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Mae croeso i bawb.

Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys Greg Reed o NBC Universal a llawer o sgyrsiau eraill o’r sector sgrin a newyddion. Bydd partneriaid a chydweithwyr yn y diwydiant sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru ac ar draws y byd, fel D&B audio, Dolby Atmos, Unreal Engine a labordai ymchwil a datblygu’r BBC + Makerbox yn mynychu’r arddangosfa hefyd.

Rhagor o wybodaeth.


Cofrestrwch yma. Ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf bydd cydweithwyr yn cael eu gwahodd hefyd i ymchwilio ymhellach i ddyfodol ymchwil a datblygu diwydiannau creadigol yn y cyfleuster arloesi newydd sbon sbarc|spark. Bydd partneriaid rhyngwladol, cyllidwyr, buddsoddwyr a llunwyr polisi yn dod at ei gilydd ar gyfer diwrnod penodol o rannu ymchwil ac adeiladu cydweithrediad.

Cofrestrwch yma.