Cofio’r Athro Geraint Jenkins, Hanesydd Cymru a Chymrawd Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru 1946 – 2025

Bu farw’r Athro Geraint Jenkins, Cyn-gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chymrawd Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn 78 oed.

Magwyd yr Athro Jenkins ym Mhenparcau, ger Aberystwyth, ac roedd yn hanesydd Cymru a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel darlithydd yn 1968. Arweiniodd yr Adran Hanes Cymru yno am 25 mlynedd. Yn 1993, ymgymerodd â’r rôl fel Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Disgrifiodd y ganolfan fel ‘sefydliad ymchwil unigryw’, a gweithiodd yno tan ei ymddeoliad yn 2008.

Cyhoeddodd yr Athro Jenkins dros 30 o lyfrau ar ystod eang o bynciau, yn cynnwys yr iaith Gymraeg, anghydymffurfiaeth yng Nghymru, pêl-droed ac yn fwyaf adnabyddus, Iolo Morganwg. Ymchwiliodd y llyfr a gyhoeddodd ar Morganwg, ‘A Rattleskull Genius’, amryw fywydau’r bardd a ffugiwr Cymreig, gan ddefnyddio’r nifer o lawysgrifau a adawyd ar ôl. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys syniadau datblygedig am draddodiadau diwylliannol a llenyddol Cymru.

Mae’r teyrngedau i’r Athro Jenkins yn helaeth. Dywedodd yr Athro Paul O’Leary, wrth siarad â BBC Cymru, y byddai’n cael ei gofio am ei ysgolheictod, ei allu i gyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd, a’i “ymroddiad di-ddiwedd i Gymru a’r iaith Gymraeg.” Bu i Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cenedlaethol, ganmol ei ymroddiad i ddatblygu cynnydd ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Yn 2010, daeth yr Athro Jenkins yn un o Gymrodyr Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wyth mlynedd ar ôl iddo gael ei wneud yn Gymrawd yr Academi Brydeinig.

yn ôl i'r brig