‘Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus’: Cofrestrwch Nawr

Mae’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan bwysig yn ffyniant cymdeithasol ac economaidd y wlad yn y dyfodol.

Dyna fydd y neges fydd yn cael ei chyfleu yng ngholocwiwm Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ‘Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus’, a fydd yn cael ei gynnal yn Abertawe ar 6 Gorffennaf.

Bydd y Colocwiwm, sy’n rhad ac am ddim i’w fynychu ac o werth arbennig i ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn archwilio nifer o themâu mewn cyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau gwib. Bydd yn dod ag aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ynghyd â chydweithwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, at ei gilydd.

Un elfen bwysig o’r digwyddiad fydd nifer o weithdai ymarferol, sy’n cynnig cyngor ar ysgrifennu grantiau, gwaith cydweithredol ac adolygu gan gymheiriaid.

Bydd y gweithdai hyn yn darparu cyfleoedd ychwanegol i ymchwilwyr gyrfa gynnar rwydweithio, ac adeiladu cysylltiadau â chydweithwyr o brifysgolion a disgyblaethau eraill.

“Bydd y colocwiwm yn edrych ar beth mae’n ei olygu i wlad fod yn llewyrchus, y tu hwnt i delerau economaidd yn unig,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Swyddog Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Bydd cyflwyniadau ar amaethyddiaeth, cyrhaeddiad isel ymysg dynion yn y Cymoedd a rhagnodi cymdeithasol, ymhlith pynciau eraill, yn datgelu’r ystod o waith ymchwil sydd yn cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru gan ymchwilwyr gyrfa cynnar.

“Bydd yr holl bynciau sydd yn cael eu trafod yn archwilio’r syniad o beth mae’n ei olygu i wlad ac unigolion ffynnu.

“Rhan o hynny fydd ffocysu ar yr ymchwilwyr eu hunain. Bydd cyfle i rwydweithio, rhannu ymchwil a chlywed cyngor amhrisiadwy am y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ymchwil lwyddiannus.” Bydd y brif araith, ‘Hybu gwrth-hiliaeth mewn sefydliadau yng Nghymru’, yn cael ei rhoi gan yr Athro Uzo Iwobi, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru.