Cyhoeddi Olivia Harrison fel Prif Weithredwr Newydd y Gymdeithas

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai Olivia Harrison fydd ei Phrif Weithredwr newydd.

Ar hyn o bryd mae Olivia yn Bennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltiad yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a bydd yn ymgymryd â’i rôl ym mis Chwefror 2022.

Dywedodd Olivia:

“Wedi gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Ddysgedig Cymru am nifer o flynyddoedd, rwy’n falch iawn o fod yn ymuno yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i’r Gymdeithas.

“Rwy’n frwdfrydig ynghylch gwerth addysg uwch i’n cenedl ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Athro Thomas, Cymrodorion y Gymdeithas a’r tîm i adeiladu ar waith gwych y Gymdeithas a dod â hyd yn oed mwy o fuddion i Gymru.”

Hyfforddodd a gweithiodd Olivia fel peiriannydd strwythurol siartredig yn Llundain cyn symud i faes polisi addysg uwch yng Nghymru. Gan ddechrau ym maes materion cyhoeddus ym Mhrifysgolion Cymru a symud i bolisi ymchwil, mae Olivia yn gyflym wedi dod yn adnabyddus fel arbenigwr ym maes polisi ymchwil ac arloesi ar y llwyfan addysg uwch yn y DU.

Mae ei rôl bresennol yn ymwneud â goruchwylio dylunio a gweithredu polisi o dros £100m o gyllid ymchwil ac arloesi bob blwyddyn i brifysgolion Cymru. 

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Olivia.

“Drwy gydol y broses benodi, roedd ei chyfoeth o brofiad, a’i hymrwymiad i, fyd Addysg Uwch Cymraeg, yn drawiadol. 

“Mae mewnwelediad Olivia i’r amgylchedd polisi, gan gynnwys y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ei gwybodaeth o ddiwylliant ymchwil Cymru a’i blaenoriaethau a’i gweledigaeth ar gyfer datblygu’r rôl yn y Gymdeithas Ddysgedig, yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfnod pwysig yn ein datblygiad.