Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar y Maes

Cynhelir y digwyddiadau canlynol gyda Chymrodyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
3-11 Awst 2018
Caerdydd

Dydd Sul 5 Awst

Dathlu bywyd Bobi Jones
14:15, Y Babell Lên
E Wyn James, Helen Prosser, Eleri James a John Emyr sy’n trafod cyfraniad nodedig Bobi Jones fel llenor ac ysgolhaig, gydag ambell ddarlleniad o’i waith.

Dydd Llun 6 Awst

Paul Robeson a’r Eisteddfod
12:45, Y Babell Lên
Catrin Beard sy’n holi Mererid Hopwood ac Ashok Ahir. Trefnir y sesiwn gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Her a hawl cyfieithu dramâu
14:00, Pabell Prifysgol Aberystwyth
Dewch i wrando ar M. Wynn Thomas yn holi Rhianedd Jewell am ei chyfrol arloesol ar gyfieithiadau dramataidd Saunders Lewis. Trafodir natur a phwysigrwydd cyfiethu yn y theatr Gymraeg, techneg cyfieithu Saunders Lewis, ac arwyddocâd y gweithiau hyn i’n dealltwriaeth o Saunders ei hun.

Her yr Hinsawdd: y ffeithiau a’r effeithiau
14:30, Pabell Cymdeithasau 1
Yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe sy’n traddodi Darlith Wyddonol y Coleg.

Darlith Flynyddol Adran Ddiwynyddiaeth Prifysgol Cymru
15:00, Cymdeithasau 2
Yr Athro D Densil Morgan sy’n traddodi Darlith Flynyddol Adran Ddiwynyddiaeth Prifysgol Cymru.

Llyfr y Flwyddyn 2018
15:30, Y Babell Lên
Cyfle euraidd i glywed yr awduron buddugol yn trafod eu cyfrolau llwyddiannus ac yn darllen o’u gwaith. Trefnir y sesiwn gan Llên Cymru.

Llenorion Cymru: Oes rhaid i’r iaith eu gwahanu
18:00, Ffres, Canolfan y Mileniwm

Trafodaeth rhwng M. Wynn Thomas, Menna Elfyn a Tomos Owen, yn bwrw golwg yn ôl dros brofiadau cenedlaethau cynt yn ogystal â rhoi ystyriaeth i’r gyd-berthynas rhwng dwy iaith y Gymru gyfoes.

Dydd Mawrth 7 Awst

Rhywioldeb, crefydd a chymdeithas yng Nghymru 1870-1945
10:30, Cymdeithasau 2
Bydd Catrin Beard yn holi Russell Davies am ei gyfol arloesol ar rywioldeb, crefydd a chymdeithas yng Nghymru 1870-1945. Trafodaeth hwyliog a byrlymus wrth lansio’r gyfrol Sex, Sects and Society: A Social History of Wales and the Welsh, 1870-1945.

Y Goron: sgwrs a darlleniad o’r Bryddest fuddugol
12:00, Llwyfan y Llannerch
Dewch draw i glywed mwy am gystadleuaeth y Goron eleni yng nghwmni’r beirniaid a’r enillydd – os oes teilyngdod! Sesiwn yng ngofal Christine James

Senedd sy’n gweithio i Gymru
16:00, Cymdeithasau 1
Trafodaeth am ddiwygio etholiadol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, gyda’r Athro Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Cymru ar ol Brexit
16:30, Cymdeithasau 2
Effaith Brexit ar gyfraith, gwleidyddiaeth a chenedligrwydd Cymru dan gadeiryddiaeth Syr Roderick Evans CF, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, yng nghwmni Keith Bush CF, Dr Simon Brooks a Dr Angharad Closs Stephens.

Dau frawd a’u magwraeth yng Nghaerdydd
17:30, Cymdeithasau 1
Yr Athro Prys Morgan sy’n sôn am dyfu i fyny yng Nghaerdydd gyda’i frawd, y diweddar gyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn narlith flynyddol Barn.

Dydd Mercher 8 Awst

Lawnsio’r gyfrol: Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales: Volume 1: From Reformation to Revival, 1588-1760 (Gwasg Prifysgol Cymru)
11:00, stondin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cadeirydd: Y Parchg Euros Wyn Jones, Siaradwyr: Yr Athro Ceri Davies FLSW, Dr Robert Pope.

Gwlad y bwgan?: ysbrydion mewn llên Cymru o Kate Roberts i Mihangel Morgan
11:30, Cymdeithasau 1
Yr Athro Katie Gramich, Prifysgol Caerdydd sy’n trafod ysbrydion mewn llên Cymru – o Kate Roberts i Mihangel Morgan. Darlith yn trafod y stori ysbryd mewn llenyddiaeth fodern Cymru, sy’n dadlau bod ysbrydion a bwganod yn cael eu defnyddio i archwilio themau cyfoes, megis rhywedd, rhywioldeb, a pherthyn.

Comiwnyddiaeth a Chymru
12:00, Llwyfan y Llannerch
Cyfle i drin a thrafod y llyfr The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales gyda’r awdur, Douglas Jones, yng nghwmni Richard Wyn Jones a Robert Griffiths.

Cennad: Llên-gofiant Menna Elfyn
12;45, Y Babell Lên
Catrin Beard yn holi’r Athro Menna Elfyn am ei llên-gofiant.

Canrif o Lafur: deall etholiadau yng Nghymru
13:00, Pabell Prifysgol Caerdydd
Bydd yr Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn archwilio i bam y mae goruchafiaeth Llafur yng Nghymru wedi parhau i’r fath raddau, er gwaetha’r ffaith y diflannodd y rhesymau dros dwf y Blaid Lafur ym mhell yn ôl.

Darlith Flynyddol Adran Diwinyddiaeth, Graddedigion Prifysgol Cymru
1:30, Cymdeithasau 2
Theologia Cambrensis: cipdrem ar hanes diwinyddiaeth yng Nghymru rhwng y Diwygiad Protestannaidd a’r Diwygiad Efengylaidd, 1588 hyd 1760, gydag Y Parchedig Athro D. Densil Morgan.

Morgan Watkin: 1878 – 1970 a Lenin a Lloyd George
17:30, Cymdeithasau 1
Gyda Nia Watkin Powell & Yr Athro Prys Morgan: Cymdeithas Hynafiaethau Cymru.

Dydd Iau 9 Awst

Teithio’n ôl i’r Oesoedd Canol
11:00, Gwyl Llên Plant
Sut beth oedd byw yn yr Oesoedd Canol? Oedd bywyd yn wahanol iawn i ni heddiw? Bydd gan Mererid Hopwood yr atebion i’r cwestiynau yma, a llawer mwy.
Carwriaeth Mym a Cnon
11:00, Y Babell Lên
Derec Llwyd Morgan yn olrhain carwriaeth Enid Picton Davies a Thomas Parry yng Nghaerdydd ddeg a phedwar ugain o flynyddoedd yn ôl. Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards.
Etholiad 1868 a’i heffaith ar Gymru a’i phobl
13:30, Cymdeithasau 2
Yr Athro Prys Morgan sy’n trafod.
Cynllunio Ieithyddol:Tueddiadau Rhyngwladol 1993-2018
14:45, Cymdeithasau 3
Mae’r Athro Colin Williams yn cyflwyno darlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru.

Dydd Gwener 10 Awst

Cyfiawnder yng Nghymru
12:00, Cymdeithasau 2
Panel o rai o brif gyfreithwyr Cymru yn trafod dyfodol cyfiawnder yng Nghymru o dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones, Canfolfan Llywodraethiant Cymru.

Menywod mewn Marmor: Caerdydd. Pwy arall?
13:00, Cymdeithasau 1
Helen Mary Jones, Dr Elin Jones, Dr Sian Rhiannon Williams, yr Athro Jane Aaron a Non Vaughan Williams sy’n trafod pa fenywod sy’n haeddu cael eu coffáu mewn cerfluniau yn ein prifddinas. Sara Huws fydd yn y gadair.