Cymmrodorion Rhaglen Ddarlithoedd: Cyhoeddi Rhaglen

Mae’r lein-yp ar gyfer cyfres ddarlithoedd y Cymmrodorion, 2021-22 wedi cael ei gyhoeddi, ac mae’n un hynod ddiddorol: mae lles, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, archaeoleg, ffenestri gwydr lliw a menywod yng Nghymru yn yr oesoedd canol i gyd yn cael eu cynnwys.

Gellir lawrlwytho’r rhaglen yma.

Mae’n bleser gan y Cymmrodorion gyhoeddi ei raglen ddarlithoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod, sydd yn gymysgedd eclectig o gyfraniadau ar bynciau sy’n rhychwantu celfyddydau, gwyddorau, llenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth Cymru.

Bydd amrywiaeth o arbenigwyr ac arweinwyr cyfoes yn siarad â’r gymdeithas yn ystod y flwyddyn nesaf. Ymhlith y rhain mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr y Canolfan Llywodraethiant Cymru; ac Elinor Bennett OBE, y delynores gyngerdd o fri rhyngwladol.

Bydd darlithoedd yn cael eu cynnal yng nghanol Llundain yn y Gymdeithas Feddygol, oni bai bod y rhaglen yn dangos fel arall.

Bellach bydd ein darlithoedd ar gael ar-lein a byddant wedi eu recordio. Ewch i’n gwefan i ymuno â ni neu i ddal i fyny.

Rhaglen ddarlithoedd 2021/2022 – Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion