Herio camwybodaeth: y cynllun Lleisiau Ymddiriedig yn dyfarnu grantiau i chwe phrosiect

Mae cynllun grant newydd arloesol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Williamson, wedi dyfarnu hyd at £10,000 i chwe phrosiect.

Mae’r holl brosiectau’n cyfrannu at syniadau o Gymru iachach, pobl iachach neu blaned iachach—sydd i gyd yn ganolog i genhadaeth ‘Pobl Iach, Planed Iach’ yr Ymddiriedolaeth Williamson.

Sefydlwyd y cynllun Lleisiau Ymddiriedig i ariannu ymchwilwyr a chynhyrchwyr gwybodaeth i greu cynnwys arloesol, deniadol a chredadwy, wedi’i anelu at gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens, Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Cawsom ymateb rhagorol i’n grantiau Lleisiau Ymddiriedig. Roedd yr enillwyr yn dangos yn eglur y cyfoeth o wybodaeth sydd yn y Gymdeithas Ddysgedig ac yn ein cymunedau.

“Hoffwn ddiolch o galon i Ymddiriedolaeth Williamson sydd wedi ariannu y gwaith fel rhan o’u gweledigaeth am Iechyd y Blaned, Iechyd ei Phobl. Trwy gydweithio, rydym yn datblygu adnodd amhrisiadwy ar gyfer ein cymdeithas yng Nghymru.”

Dyma’r chwe phrosiect llwyddiannus, sydd yn cael eu rhestru yma gyda’r prif ymgeisydd:

Llawn: Menywod, Iechyd, a Gwyddor Bwyta

Arweinydd y Prosiect: Dr Heidi Seage, Seicolegydd Iechyd / Prif Ddarlithydd Seicoleg Iechyd/ Cadeirydd Presennol Cymdeithas Seicolegol Prydain Adran Seicoleg Iechyd Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Cynhyrchu cyfres o bodlediadau sy’n adeiladu ar ymchwil seicolegol a niwrowyddonol, gyda’r bwriad o helpu i leihau cywilydd ac euogrwydd o amgylch bwyta.


Dŵr Iach, Cymunedau Gwybodus

Arweinydd y Prosiect: Dr Sindia Sosdian, Darllenydd mewn Gwyddoniaeth Forol, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd

Gweithdai cymunedol, fideos, posteri a ffeithluniau i ddarparu gwybodaeth am ollyngiadau carthffosiaeth a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ansawdd dŵr i fenywod a theuluoedd.


“Bwydydd ddoe, Bwydo fory!”/ “Saving the Stories of Welsh Food”

Arweinydd y Prosiect: Carwyn Graves, Cyfarwyddwr Addysg, Ymchwil a Phartneriaeth, Cegin y Bobl

Engage people in Wales about how food practices, attitudes and knowledge have changed, and what impact this has had, while training people in ‘food leadership’ and oral history collection.


Lleisiau Ymddiriedig dros yr Hinsawdd, Ynni a’r Amgylchedd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Arweinydd y Prosiect: Yr Athro Ian Hall, Athro Ymchwil mewn Systemau Hinsawdd a Palaeohinsawdd, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd

Dod ag arbenigwyr daeareg at ei gilydd i greu’r Llannerch Ynni Gwyrdd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a gwahodd ymwelwyr i’r ŵyl i archwilio newid hinsawdd, pontio ynni, a dyfodol amgylcheddol Cymru trwy gyfrwng gweithgareddau ymarferol deniadol a sgyrsiau.


Eich Amgylchedd, Eich Meddwl: Lleisiau Ieuenctid ar Iechyd Meddwl

Arweinydd y Prosiect: Dr Amy Mizen, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Data Iechyd, Prifysgol Abertawe

Cyd-gynhyrchu, gyda phanel cynghori ieuenctid, tair ffilm fer ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, sy’n cyflwyno canfyddiadau i lunwyr polisi a chynllunwyr am sut mae cael eich magu’n agos at fannau gwyrdd gyda gwell ansawdd aer yn lleihau’r risg o orbryder ac iselder yn ystod llencyndod.


Wedi’i Drochi yng Ngoleuni’r Haul a’i Wreiddio yn y Môr

Arweinydd y Prosiect: Giulia Leanza, Swyddog Prosiect, Prifysgol Bangor

Archwilio arwyddocâd ecolegol a harddwch esthetig coedwigoedd gwymon a’r bywyd cysylltiedig, drwy weithio gydag artistiaid a’r cyhoedd i gynnal gweithdai a chynhadledd sy’n cyfuno gweithiau celf, arddangosiadau sy’n seiliedig ar fwyd, a chynnwys digidol.


Nawr, bydd derbynwyr y grantiau yn gweithio i wireddu eu cynigion, a byddant i gyd yn defnyddio ymchwil a thystiolaeth ddibynadwy, sy’n bodoli’n barod, ac sydd wedi’u hanelu at herio diwylliant o gamwybodaeth sy’n nodweddu llawer o’r dadleuon cyhoeddus cyfoes.

Dywedodd yr Athro Karen Salt, un o Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Williamson a pherson gweithgar drwy gydol y broses ymgeisio: “Yn ein hamgylchedd heriol presennol o gamwybodaeth, mae’n gallu bod yn anodd gwybod pwy i ymddiried ynddynt i gael gwybodaeth gredadwy ac ystyrlon sy’n ymwneud â phobl iach, planed iach a chymunedau iach.

“Rydyn ni, yn yr Ymddiriedolaeth  Williamson, yn hapus bod y rhaglen Lleisiadwy Ymddiriedig, sydd wedi cael ei hadeiladu mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn gallu llenwi’r bwlch hwn ac yn cysylltu’r rhai sy’n cario gwybodaeth, ble bynnag maen nhw, gyda chymunedau.

“Ar ei hanfod, mae’r rhaglen Lleisiau Ymddiriedig yn canolbwyntio ar ymgysylltu ystyrlon a chyfnewid trawsnewidiol. Mae’r prosiectau, y bobl a’r cymunedau sy’n rhan o’r rownd gyntaf hon o gyllid, yn dyst i’r syniadau gwych a’r partneriaethau pwerus sydd yn bodoli ar draws Cymru.”

Gwahoddwyd cyfranogwyr ar y rhestr fer i gymryd rhan mewn diwrnod hyfforddi yn gynharach eleni. Ei nod oedd datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyfathrebu ymchwil gymhleth mewn ffordd y byddai cymunedau ar draws Cymru sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan yr ymchwil honno yn gallu ei deall yn hawdd.

Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn datblygiad y prosiectau dros y misoedd nesaf, gyda chanlyniadau terfynol y prosiectau’n cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2027.

yn ôl i'r brig