Cynhadledd Llawysgrifau Cymreig c.800–c.1800

Mae’r Gymdeithas yn cefnogi Cynhadledd Llawysgrifau Cymreig c.800–c.1800, 20 – 22 Mehefin yn Aberystwyth.

Cynhelir y gynhadledd hon ar y cyd rhwng Canolfan Prifysgol Cymru ar gyfer Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Uwch a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800-c.1800 gan Daniel Huws FLSW. Y siaradwyr yn y cyfarfod llawn fydd Ceridwen Lloyd-Morgan FLSW, Bernard Meehan a Paul Russell.

Bwrsariaeth presenoldeb ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig

Gall ymchwilwyr ôl-raddedig wneud cais i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am fwrsariaethau tuag at eu costau presenoldeb (ffioedd cofrestru yn unig). Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar gwrs ôl-raddedig. Ni ddylai ymgeiswyr feddu ar swydd lawn amser academaidd ar adeg y dyfarniad.

E-bostiwch Dr Barbara Ibinarriaga Soltero i ofyn am y ffurflen gais am fwrsariaeth.