Cynllun Grantiau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Derbyn Ymateb Enfawr gan Ymchwilwyr o Gymru

Mae diddordeb digynsail yn ein cynllun grantiau gweithdai ymchwil wedi arwain at chwech ar hugain o brosiectau, ar draws pedair thema wahanol, yn derbyn cyllid.

Mae’r pynciau’n amrywio o glwb pêl-droed Wrecsam i belydrau cosmig, tegwch rhywedd yn y gweithle i fanciau bwyd, mewn arddangosfa agraffiadol sy’n dangos sut mae’r cynllun grantiau yn cwmpasu ystod ddeniadol o feysydd pwnc.

Mae’r cynllun wedi bod yn rhedeg ers 2022 ac mae bellach wedi darparu cyfanswm o 60 o brosiectau gyda grantiau rhwng £1,000 a £2,000. Mae’r cyllid wedi’i gynllunio i ddod ag ymchwilwyr o Gymru at ei gilydd mewn gweithdai cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, lle mae syniadau ymchwil a cheisiadau am ragor o gyllid yn cael eu datblygu.

Mae’r grantiau yn cael eu dyfarnu ar draws y themâu eang canlynol:

  • Llwybrau at Heddwch (ar y cyd ag Academi Heddwch, sefydliad Heddwch Cymru)
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
  • Astudiaethau Cymreig
  • Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

“Cawsom ein synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.

“Mae’n gwbl amlwg bod y cynllun grantiau wedi dod yn rhan sylweddol o amgylchedd ymchwil Cymru erbyn hyn. Mae’n darparu’r math o gyllid sy’n aml yn gallu bod yn anodd cael gafael arno, yn enwedig i bobl ar ddechrau gyrfa ymchwil. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein holl gyllidwyr – mae eu cyfraniadau yn allweddol mewn hyrwyddo’r gwaith hanfodol hwn yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae’r cysylltiad eleni gydag Academi Heddwch yn ddatblygiad cyffrous, yn gyntaf oherwydd ei ffocws ar astudiaethau heddwch, lle mae angen gweithredu ar dipyn o frys yn yr amseroedd presennol.”

Bydd y rheiny a dderbyniodd y grantiau yn ysgrifennu adroddiad interim yn ddiweddarach yn y gwanwyn, cyn cyflwyno adroddiad terfynol yn yr haf.

Dyma’r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gennym (wedi’u rhestru gyda’r prif gynigydd):

Teitl y ProsiectPrif GynigyddPrif Sefydliad
Astudiaethau Cymreig
Empowering Llanelli through Community-Driven Entrepreneurial Education: A Model for Welsh Town RegenerationDr Felicity Healey-BensonHarmonious Entrepreneurship Society (Ltd)
Access Insight Knowledge Exchange workshopsAnita Naoko PilgrimThe Open University in Wales
How can housing associations transform food systems in Wales?Dr Hannah PittCardiff University
Arbrofi: Devolved jurisdictions as spaces for aspirational legislationDr Caer SmythCardiff University
Addysg i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru a Quebec: cydweithio i rannu arfer gorau a datrys heriauDr Kathryn JonesIAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith
Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
What can we learn from first-hand accounts of death and dying? An exploration of raw and honest narratives from those at the end of life, their loved ones and their healthcare professionalsDr Louise ChildCardiff University
The 28 archive workshopsDr Sara Correia-HopkinsSwansea University
Interdisciplinary investigation of soil sensing and monitoring applications for public engagement and climate actionDr Paul GranjonCardiff Metropolitan University
Implementing a decolonising project in context: Being led through student needs and perceptionDr Annie HendryBangor University
Play for children affected by displacement in WalesDr Justine HowardSwansea University
Implementing a decolonising project in context: Being led through student-needs and perceptionDr Ahmed Raza MemonCardiff University
Assisted Reproductive Technology as poetic ART: Reframing medical experience through creative practiceDr Carrie SmithCardiff University
Early-career teacher retention in Wales: Coaching for professional developmentDr Laura Nicole Rees-DaviesCardiff Metropolitan University
Beyond the ballot: Reimagining democratic engagementSarah RobertsThe Open University in Wales
Arts engagement for disability groupsDr Grace ThomasWrexham University
Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
Exploration of cosmic ray-initiated lightning during thunderstormsDr Muhammad Naeem AnwarSwansea University
Closing the gap of equality of access to fresh food produce and improving mental wellbeing in food bank service usersDr Alecia CousinsSwansea University
Neuro-affirming welfare spacesDr Josie HenleyCardiff University
Wrexham Football Club & Welshness: An interdisciplinary examination of the Wrexham AFC takeover and its impact upon Welsh language, culture and identityDr Nina JonesCardiff Metropolitan University
What is school readiness? Does family resilience impact school readiness?Dr Amanda ThomasUniversity Of South Wales
Advancing gender equity in Welsh workplacesDr Lauren Josie ThomasUniversity of South Wales
A BCUHB and Bangor University task force to establish a statement of urgent research priorities around school readiness across North WalesDr Charlotte WiltshireBangor University
Llwybrau at Heddwch
Co-developing improved access to psychosocial interventions and social prescribing in the community for people seeking refuge and asylum.Dr Rabeea’h W AslamCardiff University
A Welsh pathway to peace: Storytelling and forced migration:Dr Gillian McFadyenAberystwyth University
Supporting girls’ everyday politics in UgandaDr Rosie WaltersCardiff University
Stories of peace from Myanmar to Wales: place-based storytelling and pedagogic decolonising for displaced youthDr Yi LiAberystwyth University