Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cyhoeddi Dau Gymrawd Er Anrhydedd newydd

Ymhlith y rhai sydd wedi’u derbyn i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig
Cymru, academi genedlaethol y celfyddydau a’r gwyddorau, mae cyd-ddarganfyddydd pylsar a darlithydd Reith y BBC.

Etholwyd y ffisegydd y Fonesig Jocelyn Bell Burnell, a ddarganfu pylsarau pan oedd yn fyfyriwr ôl-raddedig, a’r hanesydd yr Athro Margaret Macmillan, sy’n adnabyddus am ei hymchwil ar yr Ymerodraeth Brydeinig a chysylltiadau rhyngwladol, yn Gymrodyr Er Anrhydedd y Gymdeithas.

Mae’r ddwy’n ymuno â 43 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.

Gellir lawrlwytho rhestr gyflawn o’r Cymrodyr newydd yma.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas am yr aelodau newydd:

“Mae ethol y ddwy hyn sy’n uchel eu bri yn Gymrodyr Er Anrhydedd yn sicrhau rhagoriaeth bellach i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol 43 o Gymrodyr newydd, sydd unwaith eto’n dangos y talentau sy’n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, yn cydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a defnyddio ein harbenigedd i wasanaethu’r Genedl.”