Dathlu talent ymchwil Cymru

Dyfarnwyd medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru neithiwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn seremoni’n dathlu llwyddiant yn y byd academaidd.

Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.

Eleni dyfarnodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru pedwar medal gyda phob un wedi’i enwi er anrhydedd i ffigurau arwyddocaol yn hanes nodedig Cymru. Crëwyd y medalau i ysbrydoli a chydnabod gwaddol hir cyflawniad y Cymry, a gaiff ei anwybyddu’n aml, ac ar yr un pryd er mwyn dathlu ymchwilwyr eithriadol ein hoes. Yn y flwyddyn hon, ‘blwyddyn y chwedlau’ mae’r medalau’n amlygu gwaith ymchwilwyr Cymru heddiw, ac yn eu tro byddant yn ysbrydoli ymchwilwyr y dyfodol.

Yr Athro Lynne Boddy

Mae medal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad ymchwilwyr benywaidd rhagorol ym maes STEMM sydd â chysylltiad â Chymru. Eleni dyfarnwyd y fedal i’r Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd, un o ecolegwyr ffwng blaenllaw’r byd. Mae’r Athro Boddy wedi arloesi gydag astudiaeth o’r modd y mae cymunedau ffwng yn datblygu mewn pren ac mae ei gwaith arloesol wedi datgelu rolau allweddol i ffyngau mewn ecosystemau coedwigol.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Boddy: “Fel ecolegydd ffwng, rwyf i’n ymwybodol iawn fod llawer mwy i ffwng na’r corff ffrwyth eiconig – madarch ac yn y blaen – a bod rhwydwaith mawr o ffilamentau ffwngaidd yn gweithio’n anweledig. Yn yr un modd, er ei bod yn anrhydedd mawr i fi dderbyn y wobr hon, mae llawer o fenywod a dynion talentog wedi perfformio’r arbrofion a chyfrannu syniadau sy’n sail i’n darganfyddiadau a’n dealltwriaeth wyddonol.”

Syr Emyr Jones Parry (chwith) a Dr Gwyn Bellamy

Dyfernir medalau Dillwyny Gymdeithas i gydnabod ymchwil gyrfa gynnar mewn tri maes academaidd: STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth), Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes; a’r Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau.

Dyfarnwyd medal STEMM Dillwyn i Dr Gwyn Bellamy, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Mathemateg ym Mhrifysgol Glasgow. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth cynrychiolaeth geometrig, un o’r meysydd oedd yn symud gyflymaf mewn mathemateg yn yr ugeinfed ganrif. Wrth graidd gwaith Dr Bellamy mae cyfathrebu ymchwil a mathemateg, gan gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Dywedodd Dr Bellamy “Rwyf i wrth fy modd, ac yn teimlo anrhydedd i gael derbyn medal Dillwyn (STEMM). Mae’n deimlad boddhaol iawn fod Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n gwerthfawrogi ac yn dathlu’r gwaith a wneir gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru. Yn benodol, yn fy achos i, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu at gryfhau’r cysylltiadau rhwng mathemategwyr yng Nghymru a’r gymuned fathemategol ehangach ym Mhrydain.”

Dr Dawn Mannay

Dyfarnwyd Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithas, Addysg a Busnes i Dr Dawn Mannay, Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau’n gysylltiedig â dosbarth, rhywedd ac addysg, ac yn tynnu ar fethodolegau creadigol a chyfranogol. Dywedodd Dr Mannay: “O ystyried hanes Medal Dillwyn ac enw da Cymdeithas Ddysgedig Cymru, roedd yn anrhydedd cael fy enwebu a derbyn yr wobr hon. Mae wedi bod yn gyfle gwych i fi astudio ac yna addysgu yng nghyd-destun Cymru, ac rwy’n gobeithio parhau gyda fy ymchwil a gweithio gyda myfyrwyr i sicrhau bod Prifysgol

Dr Rhianedd Jewell

Caerdydd yn cynhyrchu cenedlaethau newydd o raddedigion a all gyfrannu at greu tirwedd gymdeithasol ac economaidd fwy cyfartal a gwell”.

Enillydd Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau oedd Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Cydnabyddir Dr Jewell am ei hymchwil ym maes astudiaethau cyfieithu, yn enwedig cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg. Mae ei hymchwil cyfredol yn ystyried cyfieithu proffesiynol, llenyddiaeth i fenywod, a’r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a’r Eidal. Dywedodd Dr Jewell: “Mae’n anrhydedd i fi dderbyn Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau. Rwyf i wrth fy modd fod fy ymchwil mewn astudiaethau cyfieithu wedi derbyn y fath gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Byddwn yn benodol yn hoffi diolch i fy nghydweithwyr a fy nheulu am eu cefnogaeth hanfodol ar ddechrau fy ngyrfa academaidd.”

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas, “Mae’n wych gweld y fath dalent yn derbyn cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Ddysgedig. Llongyfarchiadau mawr i enillwyr ein medalau.”