Codi proffil rhyngwladol eich Cymdeithas

Yn ddiweddar bu ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Alan Shore, yn cynrychioli’r Gymdeithas mewn cyfarfod o academïau dysgedig y byd yn Philadelphia. Ceir hanes ei daith isod.

Dyfodol Academïau Dysgedig gan Alan Shore

Syniad Robert Hauser, Swyddog Gweithredol Cymdeithas Athronyddol America oedd cynnull cyfarfod o academïau dysgedig y byd. Ar ôl dwy flynedd o gynllunio, cynhaliwyd y cyfarfod ar 12-14 Mehefin 2019 yn Philadelphia, gyda Chymdeithas Athronyddol America (APS) yn trefnu. Denodd y cyfarfod academïau o 20 o wledydd. Roedd taeniad daearyddol y cynrychiolwyr yn nodedig gan gynnwys nifer o wledydd Affrica ac Ewrop; roedd cynrychiolaeth dda o Ogledd a De America; a chafwyd presenoldeb o ranbarth y Pasiffig gydag Awstralia a Taiwan. Cwblhawyd presenoldeb Ynysoedd Prydain gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin, y Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas Frenhinol Dulyn.

Caiff crynodeb o drafodion y cyfarfod ei lunio maes o law felly nod yr erthygl hon yw rhoi blas ar y cyfarfod. Ac wrth sôn am flas, gellid nodi bod APS yn hael iawn gyda’u lluniaeth gan ddechrau gyda derbyniad gyda’r nos yn Neuadd Llyfrgell hanesyddol y Gymdeithas. Yn y derbyniad hwnnw, pan esboniais i Moneef R. Zoubi (Cyfarwyddwr Cyffredinol Academi Gwyddorau’r Byd Islamaidd) fy mod yn cynrychioli Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ei ymateb ar unwaith oedd: John Wyn Owen. Dyna gadarnhau’n swyddogol felly mai John Wyn yw Cymrawd enwocaf y Gymdeithas Ddysgedig.

Treuliwyd y rhan fwyaf o’r cyfarfod ar drafodaeth bwrdd crwn yn Neuadd Franklin yr APS. I ddechrau, neilltuwyd 6 munud yn union i’r cynrychiolwyr gyflwyno eu hacademïau. Daeth gwahaniaethau rhwng agweddau’r academïau’n amlwg yn y sesiwn gyflym hon. Heb enwi neb, gellid sôn am un academi oedd yn gwahardd unrhyw un dros 72 oed rhag bod yn weithredol yn yr academi. Mewn cyferbyniad, roedd academi arall yn gosod ffioedd uwch ar aelodau nad oedden nhw’n ymwneud yn weithredol â gweithgareddau’r academi.

Roedd gwahaniaethau o’r fath hefyd yn amlwg pan ganolbwyntiodd y drafodaeth ar bum thema: Aelodaeth; Technoleg; Cyfathrebu; Cyllid a Chydweithio. Fodd bynnag, roedd llawer yn gyffredin hefyd yn y trafodaethau. Roedd pwyslais mawr ar amrywiaeth gyda ffocws penodol ar gynnwys cyfranogwyr iau yng ngweithgareddau’r academïau. Mynegwyd pryderon cyffredin hefyd am gyfathrebu’n effeithiol gyda’r gymuned ehangach – yn enwedig yn yr ‘oes ôl-wirionedd’.

Roedd cyllido’n bwnc a ddenodd amrywiaeth barn. Mae rhai academïau’n derbyn incwm enfawr am ddarparu gwasanaethau, tra bo eraill (heb enwi neb eto) yn pryderu am eu hyfywedd yn y dyfodol. Does gan yr APS ddim ffioedd aelodaeth ond mae aelodau’n gwneud rhodd wirfoddol o $900 y flwyddyn ar gyfartaledd. Un aelod o’r APS yw Mark Thompson, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, a Phrif Swyddog Gweithredol Cwmni’r New York Times. Cadeiriodd gyfarfod Panel Rhyngwladol oedd ar agor i’r cyhoedd. Mae cyfarfodydd agored o’r fath yn ddigwyddiadau cyffredin i’r APS gan ddenu nifer o fynychwyr cyson o’r ardal leol. Sicrhaodd cyfraniadau o’r llawr fod hwn yn ddigwyddiad bywiog.

Daeth y cyfarfod i ben gyda sesiwn gloi oedd yn cytuno y dylid cynnull cyfarfod arall – yn Ewrop mae’n debyg. Bydd newyddion am ddyddiadau, amser a lleoliad yn dilyn.

Mae recordiad o sesiwn gyhoeddus y gynhadledd i’w weld yma: boxcast.tv/view/public-keynote-international-symposium-on-the-future-of-learned-academies-236266