Blog YGC: Dr Shubha Sreenivas yn myfyrio ar Fforwm Arbenigwyr ECR ‘Anabledd yng Nghymru’

Ar 5 Chwefror 2025, daeth Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar o bob cwr o Gymru i Wrecsam i gymryd rhan mewn Fforwm Arbenigol yn ymwneud ag ‘Anabledd yng Nghymru’, a gadeiriwyd gan yr Athro Ruth Northway FLSW. Llwyddodd y fforwm i ddwyn ynghyd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, llunwyr polisïau, sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau ymgyrchu llawr gwlad i drafod y modd y gall Saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ryngweithio gydag anabledd yng Nghymru, ac effeithio arno.
Yma, mae Dr Shubha Sreenivas, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam ac aelod o’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, yn myfyrio ar y profiadau a gafodd yn y Fforwm.
Er fy mod wedi ymgysylltu’n flaenorol ag arbenigwyr ar sail profiad, cynigiodd y Fforwm Arbenigol ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gyfle unigryw imi rannu fy myfyrdodau ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol trwy lens fy anabledd yn sgil Covid Hir. Pan gyflwynais gais i gymryd rhan yn y fforwm, fy nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r modd y mae Covid Hir yn cyfyngu ar fywydau trwy gael effaith anweledol a gwanychol ar unigolion. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r profiadau amrywiol a ddaw i ran unigolion anabl eraill wrth iddynt ymdopi â Covid Hir – profiad tebyg i ymlafnio â bwystfil anghyfarwydd mewn tywyllwch dudew. Nid gormod yw dweud bod llwyddo i fynd trwy ddiwrnod digon diddigwydd yn gyflawniad mawr i’r mwyafrif ohonom; eto i gyd, mae’r rhwystrau sy’n ein hwynebu, a’n hymdrechion i oresgyn y rhwystrau hynny, yn anweladwy oherwydd nid oes gennym unrhyw greithiau amlwg i’n hatgoffa o’r cystudd. Wrth inni ddysgu dofi’r bwystfil anghyfarwydd a didostur hwn, nid yw’r bobl na’r sefydliadau o’n cwmpas yn ymwybodol o’r rhwystrau a ddaw i’n rhan; ac ar adegau prin, maent yn amheus o’r rhwystrau hynny. Fy nod, felly, oedd codi ymwybyddiaeth o Covid Hir, gan sicrhau bod profiadau o Covid Hir yn cael eu gweld, eu clywed, eu deall a’u cefnogi.
A minnau’n gwybod fy mod yn cynrychioli 2.9% o boblogaeth y DU sy’n byw gyda Covid Hir (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2023), cefais fy ysbrydoli i fynychu’r Fforwm Arbenigol ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar er mwyn imi gael llwyfan i rannu’r profiad bywyd hwn gyda llunwyr polisïau. Calonogol oedd gweld bod y fforwm yn siarad iaith gyffredin mewn perthynas â grymuso, gan gydnabod ar yr un pryd sut y gellir gwella a chynnal anabledd, ni waeth be fo’i achos, trwy ein hamgylchedd cymdeithasol. Gan leisio’r angen am amgylchedd teg a all alluogi unigolion i fod yn aelodau hyderus a chyfrannol o’u cymunedau, myfyriodd y fforwm ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – y modd y mae’r Ddeddf yn gweithio ar hyn o bryd, y pethau y mae angen eu newid, a sut y gellir ei gwella.
Mae’r bwriad cyfredol i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gyfrwng polisïau perthynol a fframwaith cyfreithiol yn cynnig ‘pecyn cymorth’ defnyddiol gogyfer ysgogi newidiadau systemig; ond cydnabyddir bodd angen hogi’r arfau sydd ar gael er mwyn sicrhau y bydd hyn oll yn fwy nag ymarfer ‘tic yn y blwch’ yn unig. Ystyriwyd yr angen i fyfyrio ar y cyfyngiadau presennol wrth ganolbwyntio ar wir ystyr a gwerth newid trwy gyfrwng y polisïau sydd ar gael. Daeth y fforwm i ben trwy roi pwyslais mawr ar ddefnyddio methodolegau ymchwil creadigol i asesu pa mor effeithiol yw polisïau ar gyfer cynwysoldeb a chymorth ystyrlon i rymuso unigolion a gwella llesiant y gymuned.
Fel ymchwilydd, mae’r fforwm hwn wedi ehangu fy nealltwriaeth o’r profiadau amrywiol a ddaw i ran unigolion ag anableddau. Hefyd, tynnodd y fforwm sylw at ba mor bwysig yw parhau i fonitro a gwerthuso polisïau er mwyn sicrhau eu bod yn ystyrlon i randdeiliaid ac yn ddibynadwy yn ymarferol; mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal eu heffeithiolrwydd. Trwy fynychu’r fforwm hwn, dysgais am y broses sy’n berthnasol i werthuso effeithiolrwydd polisïau’n feirniadol, ac rydw i wedi cael fy nghymell i weithio gyda llunwyr polisïau yn y dyfodol.
Bydd canfyddiadau Fforwm Arbenigwyr ECR ar gael mewn adroddiad byr, i’w gyhoeddi ar ein gwefan.