Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth: Datganiad y Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Hoffai Cymdeithas Ddysgedig Cymru fynegi ei thristwch yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth.

Dywedodd Hywel Thomas OBE, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’r Frenhines Elizabeth wedi gwasanaethu’r wlad gydag ymroddiad ac ymdeimlad dwfn o ddyletswydd.

“Mae’n briodol ein bod yn ei chydnabod a’i chofio am gymryd ei rhan o ddifrif yn ystod cyfnodau o newid mawr, ac i Gymru yn sicr.

“Rydym yn estyn ein cydymdeimlad mwyaf i’r teulu brenhinol.”