Enillydd gwobr poster WISERD

Dan nawdd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae Cystadleuaeth Poster Myfyrwyr WISERD yn gofyn i fyfyrwyr PhD greu poster addysgiadol yn esbonio eu hymchwil. Yna caiff y posteri eu harddangos yng nghynhadledd flynyddol WISERD.

Dyfarnwyd y wobr yng Nghynhadledd WISERD 2019 a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf, i Sophie Baker, myfyriwr PhD ar ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Cytunodd y panel mai poster Sophie oedd y mwyaf addysgiadol, clir a difyr.

Mae Sophie’n ymchwilio i berthyn i iaith a seicosis ac roedd ei phoster yn esbonio ei hymchwil i ganfyddiadau o berthyn mewn defnyddwyr gwasanaeth sydd â seicosis sy’n byw mewn cymunedau anghydnaws yn ieithyddol yng ngogledd Cymru.