Cymrodyr yn yr Eisteddfod

Mae nifer o’n Cymrodyr yn brysur gyda’r Eisteddfod AmGen eleni mewn amrywiol ffyrdd. I ymuno â’r digwyddiadau, ewch i’r Maes rhithwir.

Dydd Iau 5 Awst 16:00, Gwyddoniaeth Panel Trafod y Dydd: Hinsawdd – Beth Nesaf? Elin Rhys yn sgwrsio gyda’r Athro Siwan Daviesyr Athro Gareth Wyn Jones ac Erin Owen am COP26 Dydd Gwener 6 Awst 11.30, Cymdeithasau Sgwrs rhwng Dwy: Bydd Yr Athro Mererid Hopwood, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a’r Academi Heddwch yng nghwmni Meg Elis, awdur, cyfieithydd ac ymgyrchydd.  Cawn glywed am hanes Meg yn ymgyrchu yng Nghomin Greenham a thros yr Iaith a hanes rhyfeddol ei Mam-gu, Annie Hughes Griffiths, yn arwain ymgyrch Deiseb Heddwch fawr Merched Cymru at Ferched America yn 1924. 12.30, Y Babell Llen Cynfrinachau Eluned Phillips: Y golygydd Menna Elfyn sy’n datgelu rhai o brif themau ei chyfrol ddiweddaraf a gyhoeddir gan Honno 13:00, Gwyddoniaeth Cofio Syr JMT: Portread o’r diweddar Athro Syr John Meurig Thomas.