Gweminar Horizon Europe: gwerthoedd nid dim ond cyllid

Ni ddylai ymchwil dda gael ei gyfyngu gan ffiniau daearyddol neu wleidyddol. Dyna pam, yng nghanol y difrod sydd wedi cael ei achosi i addysg uwch y DU gan Brexit, bod y penderfyniad i ailymuno â Horizon Europe yn 2023 yn gam i’w groesawu.
Pan gyhoeddwyd ailgysylltu â Horizon Europe, dywedodd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Hywel Thomas FLSW: “Bydd y cyfle i weithio’n gyda’n cydweithwyr Ewropeaidd eto yn hwb enfawr i wyddoniaeth yng Nghymru a’r DU.”
Pwysigrwydd cydweithio o’r fath yw un o themâu allweddol ein gweminar ymchwilwyr gyrfa gynnar sydd i ddod, ‘Opportunities for ECRs in Horizon Europe and COST’.
“Mae hwn yn bwnc pwysig i ni,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, Rheolwr Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. “Bydd yn darparu gwybodaeth amhrisiadwy i ymchwilwyr gyrfa cynnar a allai fod yn ansicr ynghylch pa gyllid sydd ar gael iddynt ar ôl Brexit.
“Ond yr un mor bwysig yw ei fod yn dangos sut, fel sefydliad, y mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn sicr yn ryngwladolaidd o ran ei hagwedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau, fel Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel, sydd yn gallu darparu’r adnoddau gorau sydd ar gael i ymchwilwyr.
Mae ein strategaeth pum mlynedd yn ein hymrwymo i gryfhau cysylltiadau amlddisgyblaethol, yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r digwyddiad hwn yn helpu i roi’r geiriau hynny ar waith.”
Bydd y gweminar yn trafod cyfleoedd ariannu’r Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys Horizon Europe, a bydd o fudd i ymchwilwyr a’r rhai sy’n eu cefnogi, i lunio ceisiadau am gyllid.
Bydd ffocws penodol ar y Rhaglen COST (European Cooperation in Science and Technology), sy’n cefnogi rhwydweithio a chydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws Ewrop, a Chymrodoriaeth ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie, sydd ar gyfer ymchwilwyr sy’n symud o fewn Ewrop neu sy’n dod i Ewrop o ran arall o’r byd, ac mae ar agor i ymchwilwyr o’r DU.
Bydd cyfle i drafod y rhaglenni hyn a mwy gyda’r Athro Yvonne McDermott Rees FLSW (Prifysgol Abertawe), a fydd yn cadeirio’r digwyddiad ac yn rhannu ei phrofiad fel rhywun a dderbyniodd gwobr gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC).
Mae siaradwyr eraill yn cynnwys:
• Ilse de Waele, Cynghorydd Prosiect, Asiantaeth Weithredol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd Emanuele Volpi, Rheolwr Cyfreithiol Uned A3, Asiantaeth Weithredol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd
• Judith Litjens, Cynghorydd Polisi, COST
• Catherine Marston o Addysg Uwch Cymru Brwsel.