Lansiad Academi Ifanc y DU 

Galw am arweinwyr newydd i fod yn aelodau cyntaf Academi Ifanc newydd y DU

Heddiw mae Academi Ifanc Genedlaethol y DU gyfan yn cael ei lansio – y gyntaf o’i math – sef rhwydwaith o ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol gyrfa gynnar. Bydd Academi Ifanc y DU yn dod ag ymchwilwyr, arloeswyr, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol, academyddion ac entrepreneuriaid ynghyd i wneud yn fawr o’u potensial a’u harbenigedd cyfunol er mwyn mynd i’r afael â materion pwysig cymdeithas.

Mae’r fenter, sy’n rhan o gydweithio rhyngddisgyblaethol ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Peirianneg, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol, yn ceisio cysylltu arweinwyr newydd sy’n meddu ar wybodaeth ac arbenigedd amrywiol, a rhoi llais iddynt mewn trafodaethau yn ymwneud â pholisïau lleol a byd-eang.

Dywedodd Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn llawn cyffro o fod yn rhan o Academi Ifanc y DU.

“Mae lansiad y llynedd o’n Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar ein hunain yn dangos ymrwymiad y Gymdeithas i’r dalent ymchwil sy’n ymddangos o brifysgolion Cymru.

“Rydym yn falch o’r gwaith hwnnw ac yn gwybod bod ‘Cymru Fyd-Eang’ angen cydweithio ac angen rhwydweithiau cryfion ar draws disgyblaethau, sefydliadau a chenhedloedd. “Mae Academi Ifanc y DU yn cynnig y cyfle hwnnw ac rydym yn falch o gefnogi ei datblygiad.”

Meddai Syr Adrian Smith PRS, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, “Rydym fel cymdeithas yn parhau i wynebu heriau, felly rydym angen hybu arbenigedd, talent a chymhelliant y rhai sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd er mwyn canfod y datrysiadau i’r heriau maent yn eu hwynebu nawr ac y byddant yn eu hwynebu yn y dyfodol.

“Mae angen datrysiadau ar gyfer problemau byd-eang fel pandemigau, newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol gan nifer o sectorau gwahanol a chan unigolion o gefndiroedd amrywiol er mwyn sicrhau newidiadau arwyddocaol.

“Mae nifer gyfyngedig o gyfleoedd ffurfiol yn y DU i weithwyr proffesiynol ifanc gydweithio ar draws disgyblaethau ac rydym yn gobeithio y bydd Academi Ifanc y DU yn rhoi hygrededd i’w llais wrth iddynt ymdrin â materion sydd o bwys”.

Bydd aelodau cyntaf Academi Ifanc y DU yn llunio strategaeth a phenderfynu ar ganolbwynt y sefydliad. Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o sectorau, yn gynnar i’w gyrfaoedd proffesiynol ac wedi cyfrannu’n sylweddol at eu meysydd penodol nhw. Byddant yn ymuno â’r fenter Academïau Ifanc byd-eang, gydag Academi Ifanc y DU yn dod yr hanner canfed a’r diweddaraf i ymuno â mudiad yr Academi Ifanc. Dyddiad cau’r ceisiadau yw’r wythfed o Fedi 2022.

Meddai’r Dr Olga Kozlova, Cyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu â Diwydiant ym Mhrifysgol Strathclyde ac aelod o bwyllgor penodiadau Academi Ifanc y DU, “Fel cyn-aelod o Academi Ifanc yr Alban, rwy’n gallu siarad o brofiad am werth dod â phobl at ei gilydd yn gynnar yn eu gyrfaoedd i gydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd, er mwyn trawsnewid y ffordd maent yn edrych ar y byd.

“Mae arloeswyr llwyddiannus, entrepreneuriaid a dyfeiswyr y dyfodol angen y gofod a’r gefnogaeth i archwilio heriau o bob cyfeiriad, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn ymwybodol ohonynt hyd yn oed. Dyma nod Academi Ifanc y DU; galluogi sectorau gwahanol i gydlynu er mwyn datrys heriau cymdeithasol wrth ffrwyno’r dalent a geir ledled y wlad.”

Dywedodd Yr Athro Duncan Cameron, Athro Bioleg Planhigion a Phridd ym Mhrifysgol Sheffield ac aelod o bwyllgor penodiadau Academi Ifanc y DU, “Fel aelod o’r gymuned LHDTC+ a hyrwyddwr anabledd, rwy’n gwybod bod canfod datrysiadau i heriau byd-eang yn gofyn am gyfraniadau gan wahanol bobl a chanddynt brofiadau bywyd gwahanol. Mae’n hi felly’n gwbl ganolog i sefydliad Academi Ifanc newydd y DU bod aelodau yn ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol a chyfartal i bawb.

“Rydym wedi ymrwymo i ddenu aelodaeth amrywiol a byddwn yn cymryd camau yn ystod yr holl broses asesu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle cyfartal i lwyddo. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cefnogi aelodau Academi Ifanc y DU i fod yn fodelau rôl ar gyfer gweithwyr proffesiynol gyrfa gynnar eraill ac sy’n ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol.”

Mae ceisiadau ar gyfer ymaelodi ag Academi Ifanc y DU ar agor nawr; gellir canfod manylion am y meini prawf ar gyfer dethol a sut i ymgeisio ar wefan Academi Ifanc y DU. Dyddiad cau’r ceisiadau yw’r wythfed o Fedi 2022.