Cymdeithas Ddysgedig Cymru a CCAUC yn Cyhoeddi Partneriaeth Datblygu Ymchwil

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi datgelu cynlluniau ar gyfer cynllun cymorth cenedlaethol ar gyfer datblygu ymchwilwyr, yn dilyn cyhoeddi partneriaeth gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Bydd cytundeb ariannu cychwynnol, blwyddyn o hyd o £103,000 yn gweld y Gymdeithas yn cyflawni prosiectau sy’n:

• cefnogi ymchwilwyr canol gyrfa ac uwch ymchwilwyr i ddatblygu eu cysylltiadau â sefydliadau a rhwydweithiau allanol;

• darparu cyngor, adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa;

• cynyddu cydweithio rhwng ymchwilwyr o wahanol brifysgolion.

Bydd y gweithgareddau’n defnyddio statws y Gymdeithas fel academi ysgolheigaidd genedlaethol, drawsddisgyblaethol. Byddant yn cefnogi gwaith prifysgolion unigol a mentrau fel Rhwydwaith Arloesi Cymru.

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

“Ni ddylem danbrisio’r pwysigrwydd o weithio gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer llwyddiant ymchwil ac arloesi yn y dyfodol.

“O gefnogi ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfaoedd i gynyddu amrywiaeth ac annog cydweithio, byddant i gyd yn helpu i adeiladu economi lwyddiannus, seiliedig ar wybodaeth. Rydym yn edrych ymlaen at weld effaith byd go iawn y bartneriaeth ar bobl a chynnydd.”

Dywedodd Martin Pollard, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Rydym wedi ein cyffroi gan y cyfleoedd mae’r bartneriaeth hon yn eu cynnig. Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a CCAUC ddiddordeb cyffredin mewn ymchwil ac arloesi, cydweithredu, ansawdd ac effaith.

“Mae ein gwaith polisi a llwyddiant ein Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar eisoes yn dangos manteision meithrin talent ymchwil Cymru.

“Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu’r argymhelliad a gafodd ei wneud gan adolygiad Diamond o gyllid addysg uwch yng Nghymru ac a adleisiwyd gan Adolygiad Reid, y dylai’r Gymdeithas dderbyn cyllid craidd i ddatblygu ei gwaith. Mae’n golygu y gallwn fwrw ymlaen â chynlluniau ymarferol sydd wedi’u datblygu’n dda, a fydd yn cyflwyno canlyniadau a manteision gwirioneddol i ymchwilwyr Cymru, p’un a yw eu gyrfaoedd yn dechrau neu wedi eu sefydlu ers amser.”

Mae’r prosiectau sydd eisoes wedi’u cynllunio yn cynnwys:

• Ehangu Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Cynnar newydd y Gymdeithas, a chanolbwyntio ar fentora, sgiliau arwain, a sefydlu rôl Cymru o fewn Academi Ifanc y DU.

• Cefnogi ymchwilwyr canol gyrfa ac uwch ymchwilwyr, drwy gynlluniau sy’n paru ymchwilwyr gyda’i gilydd a gyda mentoriaid.

• Annog cydweithio drwy gynllun grant ar gyfer cynigion ymchwil cyfnod cynnar.

• Cynyddu partneriaeth drwy ehangu ein gwaith gyda phartneriaid strategol ar draws y gwledydd Celtaidd a’r DU.

• Hyrwyddo a dathlu cryfder diwylliant ymchwil Cymru, drwy astudiaethau achos, gwaith polisi a chynllun Medal Dillwyn llwyddiannus y Gymdeithas.