Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ymateb i adolygiad o wariant Llywodraeth y DU

Fel academi genedlaethol Cymru, rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o bwysigrwydd hanfodol ymchwil a datblygu. Bydd y cyhoeddiad yn Adolygiad o Wariant yr hydref o bron i £15 biliwn o fuddsoddiad ym maes ymchwil a datblygu, yn hanfodol i helpu’r DU i wella o’r argyfwng presennol. Mae’n bwysig bod buddsoddiadau o’r fath o fudd i ymchwil yn y meysydd STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth) a HASS (Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol). Mae’r holl ddisgyblaethau hyn yn hanfodol er mwyn ailadeiladu ein hiechyd, ein heconomi a’n cymunedau.

Rydym yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ‘lefelu am i fyny’ rhwng cenhedloedd a rhanbarthau. Yn hyn o beth, wrth i ni agosáu at ddiwedd cyfnod pontio Brexit, rydym yn parhau i bryderu am y cynnig i ddisodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r cronfeydd hyn wedi gwneud cyfraniad hanfodol i’r sector addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru. Mae’r Adolygiad o Wariant yn darparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am sut y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd yn gweithredu, ond mae angen mwy o eglurder ynghylch sut y bydd y gronfa hon yn cyflawni’r agenda ‘lefelu am i fyny’. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r gronfa fel cyfle i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor yn y DU, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gyflawni’r nod hwn.