Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ymateb i berthynas y DU gydag Ewrop yn y dyfodol

Mewn ymateb i’r cytundeb a gyrhaeddwyd ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, meddai’r Athro Hywel Thomas, Llyywydd y Gymdethas:

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad am gytundeb rhwng y DU a’r UE. Bydd yn galluogi’r ddau i gymryd rhan mewn trafodaethau mewn perthynas â rhaglenni’r UE.

“Hoffem annog y DU a’r UE i adeiladu ar y cytundeb, drwy symud ymlaen gyda thrafodaethau mewn perthynas â Horizon Europe. Bydd hyn yn galluogi cymuned ymchwil ac arloesi Cymru i gymryd rhan yn y rhaglenni hyn, ac i barhau i weithio gyda’u partneriaid i adeiladu ar y cydweithrediadau rhyngwladol o fwy na 4,000 sydd wedi cael eu hariannu gan y rhaglen hyd yn hyn. 

“Rydym yn siomedig, fodd bynnag, bod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+.

“Mae’r Gymdeithas wedi tynnu sylw o’r blaen at werth y rhaglen Erasmus+ i ysgolion, myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion yng Nghymru. Rydym yn dal o’r farn y dylai Cymru fod yn rhan o’r rhaglen hon.

“Yn y cyfamser, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Adran Addysg y DU, a chyfrannu at ddatblygu’r cynllun Turing arfaethedig, i sicrhau ei fod yn gweithio i ddysgwyr yng Nghymru.”