Lowri Cunnington Wynn yn ennill Gwobr Gwerddon

Dr Lowri Cunnington Wynn o Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni. Cyflwynir y wobr i Lowri yn ystod derbyniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 4 o’r gloch dydd Mercher 7 Awst.

Dyfernir Gwobr Gwerddon bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Lowri’n derbyn tlws, a gwobr o £100 sydd yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

E-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Gwerddon. Mae’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd gwreiddiol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Erthygl Lowri – ‘“Beth yw’r ots gennyf i am Gymru?”: Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg’ – a ddaeth i’r brig eleni. Mae’n trafod allfudo ymysg pobl ifanc o’r  bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch yr erthygl fuddugol yma.