Making Light of Mathematics: Darlith David Olive 2022
4 Mawrth, 2022

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal y drydedd ddarlith yng Nghyfres Ddarlithoedd David Olive 16 Mawrth (4pm).
Y siaradwr eleni yw’r Athro Syr Michael Berry, Cymrawd Anrhydeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Meliville Wills, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac Athro Ffiseg, Prifysgol Bryste.
Mae’r Athro Berry yn enwog am ei gyfraniadau i fecaneg cwantwm, opteg ac anhrefn cwantwm.
Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe; dim ond 220 unigolyn a ganiateir ar gyfer y gynulleidfa yn y lleoliad.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw.
Cefnogir darlith David Olive gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.