Map o Fryste 1480

Mae Helen Fulton wedi gweithio gyda Historic Towns Trust a thîm o haneswyr ac archeolegwyr o Fryste, i gyhoeddi’r prosiect A Map of Bristol in 1480: A Medieval Merchant City.

Cefnogwyd y prosiect ei gefnogi drwy gyllid gan Brifysgol Bryste a chymdeithasau hanes lleol ym Mryste.

Mae’r map yn ailadeiladu’r ddinas fel y’i disgrifiwyd ym 1480 gan William Worcestre, swyddog rheng uchel a oedd yn frodor o Fryste, ac a ddisgrifiodd ei strydoedd a’i hadeiladau yn fanwl iawn. Mae’r map wedi cael ei argraffu ar ddalen, gyda map OS o 1918 yn y cefndir. Ar y tu ôl,  mae disgrifiad manwl o’r eglwysi, tai crefyddol, muriau’r castell, tafarndai a thai oedd yn perthyn i’r masnachwyr mwyaf llewyrchus yn y dref borthladd fawr hon.

Arweiniwyd y prosiect gan Helen Fulton, gyda chartograffeg gan Giles Darkes (Historic Towns Trust) a chyflwyniad gan yr Athro Peter Fleming (Prifysgol Gorllewin Lloegr). Cafodd y gwaith ymchwil ar gyfer y map ei wneud gan Dr Robert H. Jones (Cyngor Dinas Bryste gynt), Dr Pete Insole (Cyngor Dinas Bryste), yr Athro Roger Leech (Prifysgol Southampton), a Dr Bethany Whalley (Prifysgol Bryste).

Mae’r map yn £9.99, a gellir ei archebu o siopau llyfrau – ISBN 978-0-9934698-7-9.