Newyddion y Cymrodyr: Medi 2022
6 Hydref, 2022

- Llongyfarchiadau i’r Athro Gillian Bristow a’r Athro Tom Crick MBE yn sgil cael eu henwi’n gymrodyr gan yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol.
- Llongyfarchiadau hefyd i’r Athro Chris Hancock a’r Athro Qiang Shen ar gael eu hethol fel Cymrodorion yr Academi Frenhinol Peirianneg.
- Derbyniodd yr Athro Robin Williams Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod eleni yn Nhregaron. Recordiwyd teyrnged iddo ef a’i waith gan yr Athro Alan Shore fel rhan o’r dathlu.