Newyddion y Cymrodyr: Ysbrydoliaeth a Dylanwad, AU yng Nghymru a Phensaernïaeth Herfeiddiol

Mae’r Athro Laura McAllister, un o’n Cymrodyr, wedi cael eu henwi ymhlith rhestr y BBC fel un o’r 100 o fenywod ysbrydoledig a dylanwadol o bob rhan o’r byd ar gyfer 2022.

Mae’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, wedi ysgrifennu’r erthygl hon ar gyfer gwefan Wonkhe, lle mae’n amlinellu’r sefyllfa y mae’r sector AU yng Nghymru yn ei wynebu yn sgil colli cyllid yr UE.

Mae Frank Lloyd Wright: The Architecture of Defiance gan Jonathan Adams wedi cael ei gyhoeddi. Mae’n archwilio sut y cafodd herfeiddioldeb creadigol Wright ei feithrin gan ei fam a’i deulu ehangach er mwyn ‘anrhydeddu radicaliaeth Gymreig ffyrnig eu cyndadau’.