Newyddion y Cymrodyr: Rhyddid, Cerddoriaeth o Gymru, Gwobrau

Fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant y BBC, bydd Dr.Rowan Williams yn un o nifer o feddylwyr blaenllaw sy’n traddodi darlith ar “Four Freedoms” Franklin D. Roosevelt. Bydd yn siarad ar y thema Rhyddid Addoli ar 2 Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Campws Parc Singleton. Mae tocynnau ar gael.

Mae cyfraniad Cymrodyr i brosiectau sy’n canolbwyntio ar fywyd diwylliannol Cymru yn amlwg yn y gyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, A History of Welsh Music. Mae’n bosib mai hwn yw’r llyfr cyntaf sy’n ymroddedig i hanes cerddoriaeth Cymru, o gyfnod ei ffynonellau cynharaf i’r oes ddigidol. Ei brif olygydd yw’r Athro Trevor Herbert FLSW, ac mae tri Chymrawd arall wedi cyfrannu penodau: Yr Athro Helen Fultonyr Athro John Harper a’r Parch Dr Sally Harper.

Mae’r Athro Marilyn Strathern, sy’n Gymrawd er Anrhydedd y Gymdeithas, wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes y Sefydliad Anthropoleg Brenhinol.

Bydd yr Athro Kamila Hawthorne yn dechrau ar ei rôl fel Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ym mis Tachwedd.

Llongyfarchiadau i’r Athro Geoff Richards ar ddod yn Athro er Anrhydedd yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth. Mae’n ychwanegu hyn at Gymrodoriaethau cynharach Peirianneg Meinwe a Meddygaeth Adfywiol a’r Gymdeithas Ymchwil Orthopedig, yn ogystal â gwobr Cyfraniad Trawsnewidiol diweddar gan y Cymdeithasau Ymchwil Orthopedig Cyfunol Rhyngwladol.