Y Prif Weinidog yn cyhoeddi Cynllun Symudedd Ymchwilydd Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon ar gyfer Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn cyhoeddi Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon a weinyddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar yn Fforwm Iwerddon-Cymru 2026
Bydd cyllid yn cyd-fynd â’r rhan Iwerddon-Cymru o Gynllun Grantiau Charlemont sydd wedi’i weinyddu gan Academi Frenhinol Iwerddon
Heddiw, cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, fwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid cyflenwol ar gyfer Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon. Cyflwynir y cynllun gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu cynllun (y rhan Iwerddon-Cymru o’r Cynllun Grantiau Charlemont) sydd eisoes ar waith yn Iwerddon. Bydd y cyllid ategol hwn yn helpu i gynnig cymorth pellach i ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n ystyried cydweithrediadau ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru. Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad cyntaf y Prif Weinidog i Iwerddon ar gyfer y Fforwm Iwerddon-Cymru blynyddol.
Yn ystod y Fforwm, cyhoeddodd Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, Helen McEntee adnewyddiad y rhan Iwerddon-Cymru o’r Cynllun Grantiau Charlemont, a gyflwynwyd yn 2025.
Nod y Cynlluniau Ymchwil Gyrfa Gynnar Iwerddon Cymru yw hyrwyddo cydweithrediad ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru dan Ddatganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru a bydd yn cael ei oruchwylio gan CDdC ac Academi Frenhinol Iwerddon (RIA). Bydd y cynlluniau’n darparu grantiau teithio bach i gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar yn Iwerddon yn ystod y camau cychwynnol o ddatblygu prosiectau ymchwil gyda phartneriaid o Gymru, yn ogystal â’r Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar hynny yng Nghymru sydd ar y camau cyntaf o ddatblygu prosiectau gyda phartneriaid o Iwerddon. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ar gyfer teithiau ymchwil byr dramor i gynnal ymchwil sylfaenol, creu cydweithrediadau a rhwydweithiau newydd neu gyrchu offer neu hyfforddiant nad ydynt ar gael yn y wlad y maent wedi’u lleoli ynddi.
Gan siarad yn Nhŷ Iveagh heddiw, nododd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:
‘Mae ymchwil ac arloesi’n ganolog i’r berthynas gref a pharhaus rhwng Cymru ac Iwerddon. Drwy ddarparu cyllid ochr yn ochr â Llywodraeth Iwerddon, rydym yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru i gydweithio a datblygu prosiectau sydd o fudd i’r ddwy ochr.
‘Mae’r fenter hon yn cyflawni ar uchelgeisiau Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 ac yn adlewyrchu’r bartneriaeth gref rhyngom. Gyda’n gilydd, rydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arloeswyr ac yn atgyfnerthu’r cysylltiadau hirdymor rhwng ein dwy wlad.’
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Tramor a Masnach, Helen McEntee, Adran Materion Tramor a Masnach Iwerddon:
‘Rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ategol ar gyfer y Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon. Dyma arddangos yn glir ein cyd-ymrwymiad i gryfhau cydweithrediad mewn ymchwil ac arloesi rhwng Iwerddon a Chymru.’
‘Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Iwerddon yn adnewyddu ei chefnogaeth ar gyfer y rhan Iwerddon-Cymru o’r Cynllun Grantiau Charlemont, a weinyddir drwy’r RIA, am flwyddyn arall, gan sicrhau cyfleoedd parhaus i ymchwilwyr gyrfa gynnar ac arloeswyr ddatblygu cydweithrediadau a phrosiectau newydd. Gyda’i gilydd, bydd y buddsoddiadau hyn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o bartneriaethau Iwerddon-Cymru.’
Dywedodd yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens, Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru:
‘Drwy gydweithio ar ran ein llywodraethau perthnasol, mae CDdC a RIA yn creu platfform cadarn a chyffrous er mwyn i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arloeswyr ddatblygu prosiectau cydweithredol ac uchelgeisiol ar draws y ddwy ynys. Fel y Llywydd newydd, rwy’n falch iawn o’r berthynas gynyddol rhwng Academïau Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon.’
Dywedodd Daniel Carey, Llywydd, RIA:
‘Mae ein cydweithrediad cryf drwy Gynghrair yr Academïau Celtaidd wedi dangos eisoes y gwerth o ddod â’n cymunedau academaidd ynghyd, a bydd y fenter newydd hon gyda CDdC yn creu rhagor o gyfleoedd i’n ymchwilwyr gyrfa gynnar ac arloeswyr feithrin partneriaethau parhaus.’
Bydd RIA a CDdC yn lansio’r galwadau am y cynllun yn swyddogol yn nhymor yr hydref 2026. Bydd rhagor o fanylion ar gael ym mis Medi 2025 ar: www.cymdeithasddysgedig.cymru/ a www.ria.ie.