Prifysgolion yn ffurfio rhwydwaith newydd i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi datgelu cynlluniau i ffurfio menter gydweithredol newydd i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.

Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) yn cael ei sefydlu mewn ymateb i adroddiad gan yr Athro Graeme Reid yn 2020, Cryfder mewn Amrywioldeb, oedd yn argymell y dylid creu menter newydd i fanteisio ar amrywioldeb mewn ymchwil ac arloesedd yng Nghymru trwy gydweithredu.

Yn y cyfnod allweddol hwn ar gyfer ymchwil ac arloesedd, o fewn tirwedd ryngwladol gyfnewidiol, bydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) yn codi proffil ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a’r DU ac yn darparu fforwm lle gall cyfranogwyr rannu arbenigedd; hefyd ei gwneud hi’n haws ffurfio partneriaethau a rhannu seilwaith.

Yn ogystal ag annog cydweithrediad ar draws prifysgolion yng Nghymru, bydd y Rhwydwaith hefyd yn hybu cydweithredu ag ystod eang o gyrff preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, gan gryfhau cyfnewid gwybodaeth ledled Cymru.

Wrth siarad mewn digwyddiad rhagolwg heddiw, a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, cyflwynodd yr Athro Reid y fenter gan ddwyn sylw at y buddion posibl a ddaw yn ei sgil ym maes ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.

“Mae ymchwil ac arloesedd yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’r economi a’r gymdeithas yng Nghymru, ac mae ei phrifysgolion yn ganolog i’r gweithgaredd hwn.

“Mae amrywioldeb yn gryfder na wneir y gorau ohono ar hyn o bryd o fewn fframwaith ymchwil Cymru ac, ar adeg pan mae llawer o brifysgolion yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd, mae’n bwysicach nag erioed bod sefydliadau Cymru’n gweithio mewn partneriaeth i gryfhau ymchwil ac arloesedd mewn rhanbarthau ledled y wlad.

“Bydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru’n darparu cyfle pwysig i ystyried cryfderau cyfunol y sector a chwilio am ffyrdd i droi nodweddion amrywiol sefydliadau Cymru yn gryfder cystadleuol ychwanegol a allai gynnig buddion hirdymor sylweddol i economïau a chymdeithasau ledled Cymru.’

Mynegodd y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething, hefyd ei gefnogaeth i’r fenter a’r effaith gadarnhaol y gallai ei chael ar economi Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ymchwil ac arloesedd i’w chwarae wrth gyflawni ein rhaglen newydd ar gyfer llywodraethu. Dim ond mewn amgylchedd sy’n arloesol ac yn drawsnewidiol y gellir cyflawni ein dyheadau am Gymru iachach, wyrddach, decach, mwy llewyrchus a mwy cyfartal.

Rwy’n hyderus y bydd y Rhwydwaith hwn yn gyfrannwr pwysig, nid yn unig i’n strategaeth, ond hefyd sut rydyn ni’n arloesi yn y dyfodol, a sut rydyn ni’n sicrhau effaith gyda phobl Cymru ac ar eu cyfer nhw.”

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

“Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) yn gyfle gwych ar gyfer ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Rydym yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygiad – gan helpu â chynnal swyddi a thwf ledled Cymru – ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd targed gwariant o 2.4% o Gynnyrch Domestig Gros ar Ymchwil a Datblygu ar draws economi’r DU erbyn 2027.

“Mae’r Cynllun ar gyfer Cymru a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU wedi nodi sut y byddwn yn adeiladu’n ôl yn well o’r pandemig. Mae’r digwyddiad heddiw wedi dangos yr arbenigedd o ran creadigrwydd ac arloesedd sydd gan gwmnïau yng Nghymru i’w gynnig.”

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Prifysgolion Cymru:

“Mae gan Rwydwaith Arloesedd Cymru’r potensial i sicrhau newid sylweddol mewn gweithgaredd ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.

“Bydd RhAC nid yn unig yn ein galluogi i gydweithredu â’n gilydd, ond hefyd gydag awdurdodau cyhoeddus, busnesau ac elusennau, gan gryfhau gallu Cymru i fynd i’r afael â’r heriau rhanbarthol a chymdeithasol yr ydym yn eu hwynebu, yn ogystal â sicrhau bod buddion ymchwil ac arloesedd yn cael eu teimlo ar draws Cymru gyfan.”

Meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wrth groesawu lansiad y Rhwydwaith:

“Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru’n ddatblygiad amserol. Bydd mwy o gydweithredu ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru’n hanfodol er mwyn sicrhau gwell effeithiolrwydd ym maes cyllido ymchwil ac arloesedd, sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.”

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

“Cryfder mwyaf y rhwydwaith hwn yw sut mae prifysgolion yng Nghymru’n canolbwyntio ymdrechion sylweddol ar ymagweddiad cwbl gydweithredol er mwyn hybu’r rhagolygon hir-dymor ar gyfer ymchwil ac arloesedd.

“Yn CCAUC rydym yn falch o gefnogi’r fenter hon gyda buddsoddiad o fwy na £1 miliwn dros dair blynedd, gan gynnwys tîm newydd wedi’i leoli gyda Phrifysgolion Cymru. Caiff y rhwydwaith ei lywodraethu gan ddirprwy is-gangellorion ym mhob un o brifysgolion Cymru, a bydd yn codi proffil Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru, y DU a thu hwnt; bydd hefyd yn darparu fforwm lle gall cyfranogwyr rannu arbenigedd. Hyn yn ogystal â chynyddu cystadleurwydd YacA prifysgolion, trwy ei gwneud hi’n haws ffurfio partneriaethau ar gyfer gwneud ceisiadau a rhannu seilwaith.

Derbyniodd y Rhwydwaith ganmoliaeth hefyd gan sefydliadau yn cynnwys UKRI, Thales a Chyd-ffederasiwn Diwydiannau Prydain (CBI).

Bydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru’n derbyn cymorth trwy dîm newydd a gynhelir gan Brifysgolion Cymru.