Yr Athro David Wyn Jones yn cynghori’r Llyfrgell Brydeinig ar Arddangosfa Beethoven

Mae’r Athro David Wyn Jones (Prifysgol Caerdydd) yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ar ei Harddangosfa Beethoven sy’n dathlu dau ganmlwyddiant a hanner geni’r cyfansoddwr.

 Bydd yr arddangosfa i’w gweld rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ebrill 2021.

Bydd yr Athro Jones hefyd yn traddodi darlith gyhoeddus yn y Llyfrgell Brydeinig ar 21 Ionawr 2021 â’r teitl: ‘Beethoven’s Eroica Symphony. What’s it got do with Napoleon and why has history marginalised a rival composer, Anton Eberl’.

Mae’r arddangosfa a’r ddarlith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau lle bydd y Llyfrgell Brydeinig yn dathlu’r cyfansoddwr, a gydnabyddir yn un o’r cyfansoddwyr gorau a mwyaf dylanwadol erioed.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys eitemau prin o gasgliad sylweddol y Llyfrgell o gerddoriaeth wedi’i hargraffu a cherddoriaeth llawysgrif.

Bydd rhagor o fanylion ar gael yn agosach at yr amser o wefan y Llyfrgell Brydeinig.

(Delwedd: Joseph Willibrord Mähler / Parth cyhoeddus)