Dyfarnu Gwobr i’r Athro Robin Stowell FLSW am Wyddoniadur Cerddoriaeth

Mae Robin Stowell FLSW sy’n Athro Emeritws yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd ac yn un o Gymrodyr y Gymdeithas, ynghyd â’i gyd-olygydd Colin Lawson, wedi ennill gwobr C.B. Oldman, 2019, am The Cambridge Encyclopedia of Historical Performance in Music (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2018).

Dyfernir y wobr i awdur neu gydawduron gwaith y pennir iddo wneud cyfraniad sylweddol ym maes bywgraffiadau cerddorol, cyfeirnodi cerddorol neu lyfrgellyddiaeth gerddorol. Dyfarnwyd y wobr gan bwyllgor a benodwyd gan Gymdeithas Ryngwladol y Llyfrgelloedd, Archifau a Chanolfannau Dogfennau Cerddorol.

Mae’r Gwyddoniadur, a gydolygwyd gyda Colin Lawson (Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol Cerddoriaeth Llundain) yn trafod materion yn ymwneud ag arddull, techneg ac ymarfer perfformio, hanes a datblygiad offerynnau cerdd a gwaith perfformwyr, ysgolheigion, damcaniaethwyr, cyfansoddwyr a golygyddion.

Ceir cyfraniadau gan dros 100 o arbenigwyr blaenllaw sy’n cynnig arolwg gydag amrywiaeth daearyddol o ddamcaniaeth ac ymarfer, yn ogystal â gwerthusiad a barn ar ddatrys problemau mewn perfformiadau cyfnod.