Yr Athro Matthew Jarvis: Ysgrifennu o Gymru, Lleisiau Datganoledig, ac Arbenigwr Lego

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

Matthew JarvisAr ôl gweithio gyda’r Gymdeithas eisoes drwy ein rhaglen Astudiaethau Cymreig, rydym ni’n falch i gyhoeddi bod yr Athro Matthew Jarvis newydd ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru fel Cymrawd.

Ar ôl sawl blwyddyn mewn rôl gofal plant, dychwelodd yr Athro Jarvis i’r byd academaidd yn llawn yn 2012. Mae wedi dangos arweiniad ymchwil drwy agor maes astudiaethau llenyddiaeth a’r amgylchedd mewn cyd-destun Cymreig cyfoes; mae wedi ysgrifennu a golygu nifer o gyhoeddiadau ar feirdd Cymreig yn Saesneg; dechreuodd y prosiect a gyllidwyd gan Leverhulme ‘Devolved Voices’ (ochr yn ochr â Chymrawd arall y Gymdeithas, Peter Barry); a chafodd ei enwi’n ddarlithydd y flwyddyn Prifysgol Aberystwyth yn 2018.

Pan ofynnwyd iddo enwi’r llwyddiant mae’n fwyaf balch ohono, dywedodd: “Gobeithio fy mod i wedi bod yn dad da. Fel rhan o hyn, dylid crybwyll yn anrhydeddus fy nhalentau Lego a dod yn arbenigwr ar Minecraft…Ond os ydych chi am gael rhywbeth mwy ysgolheigaidd, rwy’n credu y byddwn i’n gorfod sôn am fy Ngwobr Darlithydd y Flwyddyn 2018 ym Mhrifysgol Aberystwyth (matthew-jarvis.co.uk/news/abersucelebrates-lecturer-of-the-year) – oherwydd bod hwn yn rhywbeth a ddaeth gan y myfyrwyr eu hunain.” Aeth yn ei flaen i ddweud “Gobeithio y caf fy nghofio am addysgu – helpu pobl i ddatblygu a chyfoethogi eu bywydau deallusol… os wyf i wedi helpu unrhyw rai o fy myfyrwyr i ddatblygu sut maen nhw’n meddwl, neu’n ymateb yn feirniadol ac yn feddylgar i’r pethau maen nhw’n eu darllen neu’n eu gweld ac i’r bywyd sy’n eu hwynebu bob ddydd – wel dyna’r ffordd orau i gael eich cofio, dim ots os oes unrhyw un yn benodol yn cofio fy enw.”

Yn ogystal â dylanwadu ar ei fyfyrwyr, mae’r Athro Jarvis wedi darparu ymgynghoriadau, gweithgareddau a deunyddiau i Gyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Poetry Wales, Adran Addysg Llywodraeth Cymru, Academi Gymreig, a Chymdeithas Llên Saesneg Cymru (y mae’n gyd-gadeirydd arni).

Matthew Jarvis and Helgard KrauseEf hefyd yw golygydd arweiniol yr International Journal of Welsh Writing in English; Cadeirydd Pwyllgor Poetry Wales; ac mae ar gyrff ymgynghorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a MoNC (Rhwydwaith Modernaidd Cymru).

Fel Cymrawd Anthony Dyson mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chymrawd Athrawol mewn Llenyddiaeth a Lle ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gwaith yr Athro Jarvis yn bennaf yn ymwneud ag Astudiaethau Cymreig. Ei arbenigeddau ymchwil yw barddoniaeth Gymreig yn Saesneg ers y 1960au, ymagweddau amgylcheddol at lenyddiaeth a chyfansoddiad barddonol o ofod a lle. Fel y dywed, mae ganddo ddiddordeb yn y ffordd mae barddoniaeth Saesneg wedi datblygu yng Nghymru ers y 1960au ac mewn archwilio sut mae llenyddiaeth yn creu syniadau am fannau a thirweddau penodol – yn enwedig mannau a thirweddau Cymreig.

Rhwng 2012 a 2015 roedd gwaith yr Athro Jarvis gyda’r prosiect ‘Devolved Voices’ yn ceisio ateb y cwestiwn ‘beth sydd wedi digwydd ym mywyd barddonol Saesneg ei iaith Cymru ers pleidlais datganoli 1997?’. Yn y prosiect hwn, ei nod oedd taflu goleuni ar waith beirdd iau a newydd. Yn sgil ei ymchwil ar y prosiect, golygodd yr Athro Jarvis gyfrol yn 2017 o’r enw Devolutionary Readings: English-Language Poetry and Contemporary Wales. Mae’r casgliad amlawdur hwn o ysgrifau’n archwilio gwaith beirdd niferus sy’n ysgrifennu yn Saesneg y mae eu gyrfaoedd llenyddol wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd barddonol Cymru er 1997.

Pan ofynnwyd iddo beth mae cael ei ethol i’r Gymrodoriaeth yn ei olygu iddo, atebodd yr Athro Jarvis: “Roedd cael fy ngwneud yn Gymrawd y Gymdeithas mewn gwirionedd yn emosiynol iawn. Roedd yn teimlo fel pe bai rhywun yn dweud bod fy ngwaith ysgolheigaidd yn bwysig, a fy mod yn cael fy nghroesawu i gymuned ehangach o academyddion, a bod Cymru, mewn rhyw ffordd, yn wirioneddol hapus i fy nghael i yma – llanc a fagwyd yn Derby swbwrbaidd ac a ddigwyddodd ddod ar draws ysgolheictod Cymreig bron yn ddamweiniol”. Ag yntau wedi symud i Gymru ganol y 90au, dim ond ar ôl cwblhau ei PhD y cyfareddwyd yr Athro Jarvis gan gwestiynau am ddatblygiad ysgrifennu Saesneg o Gymru – yn enwedig yn nhermau barddoniaeth.Matt Jarvis

Yn 2017 lluniodd yr Athro Jarvis adroddiad i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar iechyd Astudiaethau Cymreig ar draws y sector. Yn fwy diweddar mae hefyd wedi adrodd ar weithredu’r ‘dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol’ yn y cwricwlwm newydd i ysgolion – y cyhoeddwyd drafft ohono ar 30 Ebrill. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r Athro Jarvis yn dilyn ei etholiad diweddar i’r Gymrodoriaeth.

Blogiau blaenorol yn y gyfres.