Yr Athro Alan Guwy: Ynni, Amgylchedd a Chynaladwyedd

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

Alan GuwyGwyddonydd â thros 30 mlynedd o brofiad ym maes Ynni a’r Amgylchedd yw’r Athro Alan Guwy. Mae’n academydd blaenllaw yn gweithio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol De Cymru, lle mae’n bennaeth Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cynaliadwy (SERC). Mae SERC yn dîm amlddisgyblaethol sefydledig a chydnabyddedig gyda thros 40 o ymchwilwyr, gan gynnwys 5 Athro a 7 darlithydd. Mae’r Athro Guwy a’r tîm yn cynnal ymchwil ym meysydd allweddol yr amgylchedd cynaliadwy a systemau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys: cynhyrchu hydrogen gwyrdd, biohydrogen a threulio anaerobig, celloedd tanwydd newydd, a systemau cludo a storio hydrogen.

Mae’r Athro Guwy wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau, sydd wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol iddo fel awdurdod yn y maes. Mae hefyd wedi cynnal a chwblhau prosiectau ymchwil niferus ym meysydd penodol ynni cynaliadwy a gwyddor yr amgylchedd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gynhyrchu hydrogen adnewyddadwy; systemau ynni hydrogen; ac adennill ynni o gynhyrchion gwastraff a biomas yn defnyddio systemau biolegol a bioelectrogemegol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu prosesau eplesol newydd sy’n trosi gwastraff trefol i gynhyrchu cemegau llwyfan a biopolymerau gwyrdd, oedd yn destun prosiect H2020 “RESURBIS”, gyda’r Athro Guwy yn brif ymchwilydd ym Mhrifysgol De Cymru.

Yr Athro Guwy hefyd sy’n arwain y systemau hydrogen ym mhrosiect FLEXIS (prosiect ymchwil werth £24 miliwn wedi’i gynllunio i ddatblygu gallu ymchwil i systemau ynni yng Nghymru) ac, yn 2010 cydsefydlodd y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel yng Nghymru lle arweiniodd thema a phrosiect CymruH2Wales. Yn ogystal â gweithio fel un o’r prif ymchwilwyr ar dîm FLEXIS, mae hefyd yn gweithio ar brosiect i Leihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) i Brifysgol De Cymru ac mae wedi ymgymryd â gwaith gyda’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu fel Asiant Gweithredol ar gyfer Biohydrogen Tasg 34.

Alan Guwy

Ag yntau’n ymgynghorydd gwyddonol i Hwb H2FCSUPERGEN yr EPSRC mae’r Athro Guwy wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Frenhinol i lunio cyfarwyddyd polisi ar gynhyrchu hydrogen carbon isel. Yng Nghymru arweiniodd ar sefydlu’r Ganolfan Ymchwil Hydrogen, un o gyfleusterau ail-lenwi hydrogen adnewyddadwy cyntaf y DU, a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol. Ag yntau bellach yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Athro Guwy.

Blogiau blaenorol yn y gyfres.

Y blog nesaf yn y gyfres.