A ydych chi’n cychwyn ar yrfa ym maes ymchwil? Ymunwch â’n rhwydwaith cymorth newydd

Yn ddiweddarach eleni, bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn lansio rhwydwaith cymorth cenedlaethol ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Rydym ni’n cynnig cyfle i chi gofrestru i dderbyn ein he-byst, fel y byddwch chi’n gwybod pryd byddwn ni’n cynnal ein cyfarfodydd ar-lein cyntaf.

Anelir y rhwydwaith hwn at unrhyw un sy’n cychwyn ar yrfa ym maes ymchwil neu’n cychwyn gweithio gydag ymchwilwyr. Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o’r aelodau yn gweithio ym maes addysg uwch, ond bydd croeso i ymchwilwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ymuno hefyd. Ni chodir tâl am ymuno, a bydd croeso i unrhyw un gofrestru. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn gofyn i aelodau gyfrannu at fywyd y rhwydwaith trwy gyfranogi mewn gweithgareddau a bod yn barod i gydweithredu ag eraill ledled Cymru.

Trwy gyfrwng y rhwydwaith, byddwn ni’n eich cynorthwyo chi i wneud y canlynol:

  • Cyfranogi mewn syniadau creadigol ac ysbrydolgar sy’n deillio o’r ymchwil a’r arferion diweddaraf
  • Cael profiadau a datblygu sgiliau a wnaiff eich cynorthwyo â’ch datblygiad a’ch proffil proffesiynol
  • Datblygu rhwydweithiau cryf a chydweithredu ar draws disgyblaethau a sectorau academaidd
  • Ymateb ar y cyd i heriau a chyfleoedd pwysig i Gymru

Ar gyfer y sawl sydd yn y sector AB, bydd y rhwydwaith yn cyfrannu at ymrwymiadau ymchwilwyr, eu rheolwyr a’u sefydliadau fel rhan o’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr.

Oherwydd y sefyllfa yn ymwneud â Covid-19, nid ydym ni ar hyn o bryd yn gallu cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb o’r rhwydwaith. Yn hytrach na hynny, byddwn yn cychwyn trwy drefnu cyfres o gyfarfodydd Zoom dros y misoedd nesaf.

Trowch at http://eepurl.com/gBBOm5 i gofrestru i gael eich cynnwys yn ein rhestr e-bostio. Byddwch chi hefyd yn gallu dewis derbyn e-byst ynghylch gweithgareddau eraill Cymdeithas Ddysgedig Cymru.