Llunio polisi: rhoi llais i’ch ymchwil yn y Senedd

Sut allwn ni sicrhau bod gwleidyddion a deddfwyr yn gweld yr ymchwil ddiweddaraf, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a gwella ansawdd eu gwaith polisi?
Mae dod o hyd i atebion i’r cwestiwn dybryd hwn yn destun ein gweminar Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar nesaf (29 Ionawr), a fydd yn archwilio’r ffordd orau i ymchwilwyr ddwyn eu gwaith at sylw staff ac Aelodau’r Senedd.
Bydd yn cael ei redeg gan Dr Sarah Morse, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, a bydd Dr Emily Marchant (Prifysgol Abertawe) a Dr Larissa Peixoto Vale Gomes (Prifysgol Caeredin) yn rhannu eu profiadau o ymgysylltu â’r Senedd fel ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Bydd y sesiwn yn:
- esbonio tirwedd polisi Cymru, a sut mae’r gwahanol rannau’n cydweithio;
- dangos i chi pam y dylech fod yn ymgysylltu â’r Senedd;
- cynnwys enghreifftiau llwyddiannus o ymgysylltu ac effaith ymgysylltu;
- helpu ymchwilwyr i drafod y ddau fyd, a deall y cyfleoedd i ymgysylltu;
- cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i wneud yn siŵr bod eich ymchwil yn cael ei glywed.
“Un o rolau allweddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ydy darparu cyfleoedd i ymchwilwyr gael gwell dealltwriaeth o bolisi a’i effaith ar eu gwaith,” meddai [Dr Rhian Powell, Swyddog Rhaglen y Gymdeithas ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr].
“Fel elusen, un o’n dibenion yw hyrwyddo pŵer ymchwil ac arloesi er budd economi a chymdeithas Cymru.
“Un o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny yw drwy fod yn llais annibynnol mewn dadleuon polisi perthnasol, a chynyddu dealltwriaeth llunwyr polisi o sut y gall ymchwil rhagorol, ar draws pob disgyblaeth, helpu Cymru i lwyddo. “Mae’r gweminar hon yn cyfrannu at y nod hwn drwy ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein talent newydd ym maes ymchwil i lywio’r byd polisi.”