Yr Argyfwng Hinsawdd ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol

Bydd systemau ynni, economeg ac ymgysylltiad cymunedol ymhlith y pynciau dan sylw yn ein Cynhadledd Ymchwil ar Ddechrau Gyrfa, a gynhelir 26 Tachwedd.

Dyddiad: 26 Tachwedd

Lleoliad: Arlein

Byddwn yn dangos gwaith mwy na 20 o Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECRs) yn ystod y digwyddiad, sy’n dilyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26, ac sy’n cysylltu ag Wythnos Hinsawdd Cymru o 22-26 Tachwedd. Mae ein cyfranwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o brifysgolion ledled Cymru, ac mae eu gwaith yn cwmpasu disgyblaethau megis STEMM, dyniaethau, y celfyddydau a gwyddor gymdeithasol.

Cynhelir chwe sesiwn a bydd thema ar gyfer pob un:

  • Rhyng-gysylltiad, Cyfraniad a Gwneud Penderfyniad: Dulliau at Weithredu’n Fyd-eang.
  • Dysgu o Brofiadau Cymunedau: Rhagweld Posibiliadau’r Dyfodol
  • Iaith a Chyfieithu: Materion ynghylch Cynrychiolaeth a Chyfiawnder Cymdeithasol.
  • Agweddau Cadarnhaol at Wastraff.
  • Economeg er mwyn Newid: Agweddau Newydd tuag at Yr Argyfwng Hinsawdd
  • Posibiliadau Newydd ar Gyfer Systemau Ynni

Yna, byddwn yn cau gyda thrafodaeth o amgylch y bwrdd mwy manwl ar y pwnc canlynol:

A fydd technolegau a ddylunnir i ddatgarboneiddio cartrefi yn gwaethygu neu leihau anghydraddoldebau cymdeithasol?