WEDI’I OHIRIO: ‘Trwy Brism Iaith’

Rydym heddiw wedi cymryd y penderfyniad anodd i ohirio ein Symposiwm ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, ‘Trwy Brism Iaith’. 

Mae hyn mewn ymateb i’r feirws Covid-19. 

Fe gymerom y penderfyniad gan wybod yr ymdrech a wnaeth llawer o bobl i ddod â’r digwyddiad yn fyw. Roedd y siaradwyr a gwesteion yn teithio yma o bob rhan o Gymru, y DU a gweddill y byd.

Mae’n debygol y byddai nifer fawr o bobl wedi penderfynu peidio â dod neu y byddai’r cyngor swyddogol yn argymell pellhau cymdeithasol. Gallai hyn olygu y byddai’r digwyddiadau yn methu â chyflenwi’r achlysuron cynhyrchiol, rhyngweithiol a chymdeithasol yr oeddem ni wedi’u cynllunio.

Credwn ei bod yn synhwyrol gohirio’r digwyddiadau hyn er eglurder i bobl fydd yn gwneud cynlluniau yn sgil Covid-19 mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw, eu cydweithwyr a’u teuluoedd.