Cymru a’r Byd: Cynefin, Gwladychiaeth a Chydgysylltiadau Byd-eang
12 Ionawr, 2022
Gwnaiff y gynhadledd hon leoli hanes Cymru o fewn cyd-destunau byd-eang a threfedigaethol.
Mae’r gynhadledd yn gwahodd cynigion ar gyfer papurau sy’n ymwneud â materion a dadleuon cyfoes hanesyddiaeth yn ogystal â pholisïau cyhoeddus.
Ar y naill law, mae’r gynhadledd yn ceisio ehangu ysgolheictod diweddar sydd wedi taflu golau newydd ar gysylltiadau Cymru ag imperialaeth a chaethwasiaeth trawsiwerydd. Ar y llaw arall, gwnaiff annog trafodaethau ynglŷn â sut caiff hanes cenedlaethol a hunaniaeth Cymru eu deall a’u haddysgu.
Wales and the World: Cynefin, Colonialism and Global Interconnections | RHS (royalhistsoc.org)