Astudiaethau Cymreig: Chynllun Grant ar gyfer Gweithdai Ymchwil

Fe wnaeth y Gymdeithas lansio ei Chynllun Grant peilot ar gyfer Gweithdai Ymchwil yn 2021. 

Fe wnaethom ddyfarnu saith grant o hyd at £1000 y llynedd i brosiectau oedd yn dod o dan faner Astudiaethau Cymru ac a oedd yn tarddu ym mhrifysgolion Cymru. 

Y prosiectau a gafodd eu hariannu oedd: 

Mae’r rownd gychwynnol hon o arian grant wedi bod mor llwyddiannus, fel ein bod ni wedi datblygu’r cynllun ar gyfer 2022 – 2023. Nawr, mae tair ffrwd ariannu: 

• Astudiaethau Cymru 

• Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol 

• Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 

Yr haf yma, rydym wedi ariannu saith prosiect arall, fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Fe fyddwn ni’n lansio rownd ymgeisio arall ym mis Medi. Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i wneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod pryd mae’r broses ymgeisio nesaf yn dechrau. 

Mae’n rhaid i brosiectau sy’n gwneud cais llwyddiannus am arian ddefnyddio’r arian i redeg cyfres o weithdai. Bwriad y rhain yw dod ag ymchwilwyr at ei gilydd ar y cam cynllunio cynnar, a datblygu menter ymchwil gydweithredol. 

Yma, rydym yn rhoi cipolwg o saith prosiect Astudiaethau Cymru a gafodd eu hariannu yn 2021/22, a sut maen nhw wedi datblygu gyda’r grant a roddodd y Gymdeithas iddynt.