Academyddion o Gymru i chwarae rhan allweddol ym mhroses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029

Mae llais Cymru mewn ymchwil y DU yn glir yng nghyhoeddiad y cadeiryddion newydd a fydd yn arwain is-baneli drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029, y system er mwyn asesu ansawdd yr ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch y DU.
Mae pedwar academydd yng Nghymru, tri ohonynt yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymhlith y 34 unigolyn a fydd yn sefydlu’r aelodaeth a’r maen prawf ar gyfer pob un panel, cyn eu harwain drwy’r broses asesu ymchwil eu hunain.
Mae’r is-baneli yn cynnal adolygiadau arbenigol ar ymchwil a gyflwynir gan sefydliadau addysg uwch, wedi ei asesu yn erbyn cyfres o fesuryddion yn seiliedig ar bwnc, neu unedau asesu (UoAs). Defnyddir deilliannau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i bennu dyraniad tua £2 biliwn o gyllid cyhoeddus blynyddol ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion ledled y DU.
Dywedodd [nodi enw], “Mae’n gadarnhaol gweld yr academyddion blaenllaw hyn yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn y broses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ac ar draws ystod eang o bynciau.” – Olivia Harrison, Prif Weithredwr
Bydd yr Athro Qiang Shen CCDdC (Prifysgol Aberystwyth) yn cadeirio’r is-banel Cyfrifiadureg a Gwybodeg; bydd yr Athro Rick Delbridge CCDdC (Prifysgol Caerdydd) yn cadeirio Astudiaethau Busnes a Rheoli; bydd yr Athro Chris Taylor FLSW (Prifysgol Caerdydd) yn ddirprwy gadeirydd yr is-banel Addysg; a bydd yr Athro Sheldon Hanton (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) yn cadeirio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth. Yr Athro James Scourse CCDdC (Prifysgol Exeter) fydd yn cadeirio is-banel y Systemau Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol.
Dywedodd Gyfarwyddwr y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, Rebecca Fairbairn: “Pleser o’r mwyaf yw croesawu’r grŵp rhagorol hwn i arwain is-baneli y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029. Bydd eu harbenigedd trylwyr a’u safbwyntiau eang yn greiddiol i feithrin proses asesu sy’n deg, yn fanwl gywir, ac yn un mae’r gymuned ymchwil yn ymddiried ynddi.”