Cymrodyr Benywaidd gydag Atebion i Heriau Datblygu Byd-eang

Thema Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth eleni yw datblygu cynaliadwy. Mae nifer o’n Cymrodyr Benywaidd yn gweithio yn y maes hwn.
Ym maes cadwraeth, mae’r Athro Julia Jones (Athro mewn Gwyddor Cadwraeth, Prifysgol Bangor) yn ymchwilio i ddimensiynau cymdeithasol cadwraeth. Mae hi wedi gweithio yn Madagasgar am 20 mlynedd ar faterion yn ymwneud â chadwraeth a datblygu. Manylion pellach am waith yr Athro Jones.
O ran agweddau gwleidyddol ar ddatblygu, mae’r Athro Kathryn Monk (Athro Anrhydeddus, Prifysgol Abertawe) yn ecolegydd gyda phrofiad helaeth ledled y byd, yn gweithio gyda llywodraethau a sefydliadau rhyngwladol ar ddarparu rhaglenni datblygu cynaliadwy. Manylion pellach am waith yr Athro Monk.
Ym maes y gwyddorau cymdeithasol, mae’r Athro Johanna Waters yn gweithio ar ymfudo, symudedd ac addysg. Mae hi hefyd yn cyd-gyfarwyddo’r Uned Ymchwil Ymfudo yn UCL. Manylion pellach am waith yr Athro Waters.
Yn olaf, mae nod datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o gadw ein moroedd a’r atmosffer yn lân, yn dangos pwysigrwydd ymchwil yr Athro Siwan Davies (Athro Daearyddiaeth, Prifysgol Abertawe) i ddalfeydd carbon ym môr y de ac ardaloedd o’r byd sy’n sensitif i newid amgylcheddol. Manylion pellach am waith yr Athro Davies.
Mae Ymchwil o Gymru (a gan bobl o Gymru) yn chwarae rhan sylweddol mewn cwrdd â’n heriau byd-eang. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn parhau i ddathlu’r ymchwil honno ac i dynnu sylw at yr effaith y mae’n ei chael.