Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 44 Cymrawd Newydd

Gwyddonwyr rhagorol, academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol nodedig yn ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru

Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi canlyniad etholiad Cymrodyr newydd 2017 sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Mae’r etholiad hwn yn cryfhau Cymrodoriaeth y Gymdeithas ymhellach drwy ychwanegu 44 o Gymrodyr newydd i’w rhengoedd, gan gynnwys dau Gymrawd er Anrhydedd, cyn Arlywydd Iwerddon, yr Athro Mary McAleese a’r Arglwydd Stewart Sutherland, Barwn Sutherland o Houndwood. Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas dros 460 o Gymrodyr, yn ddynion a menywod nodedig o bob cangen dysg, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau penodol. Eleni mae 35% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod, ac o’r Cymrodyr STEMM a etholwyd, mae traean yn fenywod, y gyfran uchaf yn hanes y Gymdeithas. Mae menywod yn cyfrif am 18% o Gymrodyr y Gymdeithas ar hyn o bryd, ac roedd 25% o’r ymgeiswyr i’r Gymrodoriaeth yn 2015/16 yn fenywaidd.

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.

Mae nifer o’r Cymrodyr newydd yn nodedig nid yn unig oherwydd eu llwyddiannau unigol, ond hefyd fel ffigurau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys: y Cymrawd er Anrhydedd newydd, yr Athro Mary McAleese a fu’n gwasanaethu fel wythfed Arlywydd Iwerddon rhwng 1997 a 2001, yr Arlywydd cyntaf o Ogledd Iwerddon. Yn 2016, ymunodd â Phrifysgol St Mary’s, Twickenham fel Athro Nodedig mewn Astudiaethau Gwyddelig. Hefyd yn ymuno fel Cymrawd er Anrhydedd mae’r Arglwydd Stewart Sutherland, cyn Lywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Is-Ganghellor Prifysgol Caeredin. Yr Arglwydd Sutherland yw un o athronwyr crefydd mwyaf nodedig Prydain ac mae’n eistedd fel croesfeinciwr yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Ymhlith y Cymrodyr newydd sy’n gweithio ym maes diwylliant Cymru mae Dr Jasmine Donahaye, enillydd Gwobr Ffeithiol Greadigol y Brifysgol Agored yng Nghymru yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae wedi bod yn gweithio yn y maes cyhoeddi yng Nghymru ers wyth mlynedd, gan gynnwys dwy flynedd fel golygydd Planet, ac mae’n Athro Cyswllt Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r Gymrodoriaeth hefyd yn cydnabod gwasanaeth cyhoeddus rhagorol; bu Syr Paul Silk yn Glerc y Cynulliad Cenedlaethol, y swyddog uchaf yn y Cynulliad. Bu’n Gadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac mae’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn y gwyddorau, mae’r Athro Haley Gomez yn Astroffisegydd, ac yn gweithio’n benodol ar uwchnofâu. Hi yw Pennaeth Ymgysylltu Cyhoeddus ac Allgymorth Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ac enillydd Gwobrau Inspire Cymru yn y Categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r Athro Richard Catlow yn gweithio yn UCL a Phrifysgol Caerdydd ym maes astudiaethau cyfrifiannol ac arbrofol deunyddiau anorganig cymhleth. Yn ddiweddar fe’i hetholwyd yn Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas Frenhinol.

Etholiad 2017 yw’r seithfed mewn proses dreigl at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymdeithas ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau yn y prif ddisgyblaethau academaidd.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:

“Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Mae’r etholiad eleni yn gwerthfawrogi ysgolheigion sy’n gwneud cyfraniad o ragoriaeth. Maent hwy a’u gwaith yn ysbrydoliaeth i’r genedl. Eto eleni, etholwyd mwy o fenywod yn Gymrodyr sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Gymdeithas i wobrwyo teilyngdod.”

Dywedodd y Cymrawd er Anrhydedd newydd yr Athro Mary McAleese:

“Rwyf i wrth fy modd i gael fy ystyried gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwyf i wedi bod yn hoff iawn o Gymru erioed, gyda gwyliau ym Metws-y-coed, y Mynyddoedd Duon, y Gelli Gandryll, Llandrillo yn Rhos a’r dyddiau cyffrous ym Mharc yr Arfau / Stadiwm y Mileniwm.”

Bob blwyddyn caiff Cymrodyr cyfredol eu gwahodd i gyflwyno enwebiadau unigolion i’w hystyried ar gyfer eu hethol i’r Gymrodoriaeth. Cafodd yr enwebiadau a gyflwynwyd ar gyfer Cylch Etholiad 2016/17 eu hystyried yn y lle cyntaf gan naw Pwyllgor Craffu. Ar ôl ystyried cyngor y pwyllgorau hyn, lluniodd y Cyngor ei restr o ymgeiswyr cymeradwy, a chyflwynwyd y rhestr honno i’r Gymrodoriaeth ei chadarnhau a’i hethol yn ffurfiol ym mis Ebrill 2017.

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.