Yr Athro Margaret MacMillan: ‘David Lloyd George: The Peacemaker

I nodi canmlwyddiant penodi David Lloyd George yn Brif Weinidog Prydain, mae Prifysgol Bangor (mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru) yn cynnal darlith arbennig ynglŷn â’i fywyd a’r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Traddodir y ddarlith gan un o haneswyr mwyaf adnabyddus Prydain, yr Athro Margaret MacMillan, ddydd Llun, 12 Rhagfyr am 7pm yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw ‘David Lloyd George: The Peacemaker’ ac mae croeso i bawb. Cyflwynir gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

David Lloyd George oedd un o wŷr radical enwocaf yr ugeinfed ganrif, a’r Cymro cyntaf, a’r unig Gymro erioed, i fod yn Brif Weinidog Prydain. Cafodd ei fagu yn Llanystumdwy ac yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Gaernarfon, bu’n Ganghellor y Trysorlys ac yn Brif Weinidog rhwng 1916 ac 1922.

Mae’r Athro MacMillan yn Athro Hanes Rhyngwladol ac yn Warden Coleg Sant Antony ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae hi’n un o ddehonglwyr mwyaf blaenllaw hanes y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ysgrifennydd o fri. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr Samuel Johnson am waith ffeithiol, am ei llyfr Paris 1919: Six Months that Changed the World (2001). Ei llyfr diweddaraf yw History’s People, a gyhoeddwyd fis Chwefror. Mae Margaret yn or-wyres i David Lloyd George.

Am fwy o wybodaeth: public.lectures@bangor.ac.uk