Her Dysgu’r Cyfnod Clo
Heddiw rydym ni’n lansio cystadleuaeth i ddysgwyr blwyddyn 11 a blwyddyn 13 i helpu i gymell eu dysgu yn ystod y cyfnod clo
Y mis hwn mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, academi genedlaethol y celfyddydau a’r gwyddorau, yn dathlu ei deng mlwyddiant. I nodi hyn, ac i helpu i gefnogi cenedlaethau iau, rydym ni’n lansio cystadleuaeth i ysbrydoli cywreinrwydd, creadigrwydd a meddwl beirniadol, a helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer cam nesaf eu hastudiaethau.
Rydym ni’n herio myfyrwyr blwyddyn 11 a blwyddyn 13 yng Nghymru i greu ‘esboniadur’ ar bwnc y byddwch chi’n ei astudio yn y chweched dosbarth, coleg neu brifysgol yn ddiweddarach eleni.
Mae nifer o wobrwyon ar gael yn y ddau gategori oed; bydd pob ymgeisydd hefyd yn derbyn tystysgrif. Y wobr gyntaf ym mhob categori fydd £300; bydd yr ail yn derbyn £150.
Mae esboniaduron yn gallu cwmpasu pob math o bethau, ond dyma rai enghreifftiau:
- chwilio am ddatrysiadau i argyfwng newid yn yr hinsawdd
- datgelu mwy am ddiwylliannau, crefyddau, hanes ac etifeddiaeth Cymru
- ymchwilio theori cwantwm neu agwedd arall ar ffiseg
- dysgu am brofiadau gwahanol gymunedau drwy lenyddiaeth, celfyddydau gweledol a cherddoriaeth
- archwilio’r byd drwy ddaearyddiaeth
- dadansoddi dibynadwyedd a thuedd mewn newyddiaduraeth ar faterion pwysig
- deall mwy am ein byd heddiw drwy hanes
Rydym ni am weld syniadau a dehongliadau creadigol o’ch pwnc, a brwdfrydedd ar gyfer datblygu eich gwybodaeth am eich dewis bwnc.
I helpu i ysbrydoli syniadau, byddwn hefyd yn cynnal nifer o Weminarau Dysgu’r Cyfnod Clo. Bydd y rhain yn cynnwys sesiwn ar y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr a chwilio am yr Higgs Boson, a dosbarthau meistr ar sut mae seneddau a’r UN gweithio. Bydd digwyddiadau eraill yn dilyn dros yr wythnosau nesaf.
Ein Cymrodyr, sy’n arbenigwyr blaenllaw, fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth.
Wrth agor y gystadleuaeth, dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rydym ni am annog diddordeb a dyheadau dysgwyr. Nod y gystadleuaeth hon yw eu hysbrydoli i ddatblygu eu talentau naturiol, bod yn chwilfrydig a chreadigol, a chael hwyl”
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS: “Mae hon yn fenter wych a byddwn yn annog pob un o’n myfyrwyr ym mlwyddyn 11 a blwyddyn 13 i gymryd rhan.
“Trwy gydol y cyfyngiadau symud rydym wedi bod yn annog plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel a dal ati i ddysgu ac mae hyn yn ffordd wych o baratoi ar gyfer y camau nesaf mewn addysg wrth ysbrydoli creadigrwydd a meddwl beirniadol.
“Hoffwn hefyd longyfarch a diolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am y gwaith a wnaed i helpu drwy gydol yr argyfwng coronafeirws, o gynorthwyo gyda’n canllawiau Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu. i gynnal gweminarau dosbarth meistr, gwerthfawrogir y gwaith yn fawr ”.