Canu, dadlau, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol wrth i’r Gymdeithas ddathlu 15 mlynedd ers ei sefydlu
Cafwyd noson i ddathlu 15 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn y Senedd ar y 6ed o Dachwedd a oedd yn cynnwys adloniant cofiadwy gan gawr y byd opera, Syr Bryn Terfel, trafodaeth banel bywiog, a myfyrdodau ar ddyfodol y Gymdeithas.
Cafwyd cwmni seren yn y digwyddiad gyda Syr Bryn, a gafodd ei dderbyn yn ffurfiol fel Cymrawd er Anrhydedd y Gymdeithas. Swynodd y gynulleidfa gyda dwy gân, I Can Give You the Starlight (Ivor Novello) a Suo Gân, yng nghwmni ei wraig, y delynores o fri rhyngwladol, Hannah Stone.
Fe gafwyd trafodaeth banel ar y noson hefyd, ‘Dyfodol Gwybodaeth: 15 Mlynedd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru’. Cafodd ei harwain gan y newyddiadurwr Will Haywood, gydag aelodau’r panel yn cynnwys Dr Manon Antoniazzi FLSW (Senedd Cymru), Mark Drakeford AS, y Farwnes Finlay o Landaf FLSW, yr Athro Yueng-Djern Lenn FLSW (Prifysgol Bangor) a’r Athro Karen Salt (Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Williamson).
Canolbwyntiodd eu dadl ar rôl academïau cenedlaethol a pham fod Cymru angen ei hacademi ei hun, a llunio gweledigaeth ar gyfer Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n dal i fod yn gymdeithas ifanc. Cynigwyd ystod eang o opsiynau, o sut i wneud bywyd deallusol yng Nghymru mor gynhwysol â phosib i bwysigrwydd mynd i’r afael â thwyll-wybodaeth a chryfhau lleisiau dibynadwy.
Creodd areithiau gan Lywydd y Gymdeithas sy’n gadael, yr Athro Hywel Thomas, a’r Darpar-Lywydd, y Fonesig Elan Closs Stephens, ddarlun o sefydliad uchelgeisiol a blaengar, sy’n benderfynol o chwarae rhan weithredol mewn gwneud Cymru’n le gwych i fod yn ymchwilydd, ynghyd â bod yn llais annibynnol a berchir mewn dadleuon ynghylch polisi.
Bydd cam allweddol nesaf nodi 15 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas yn dod yng ngwanwyn 2026 gyda’r cyhoeddiad o ystod newydd o fedalau i’r Gymdeithas.